Daily Post
Papur newydd dyddiol rhanbarthol yn yr iaith Saesneg ar gyfer Gogledd Cymru yw'r Daily Post. Fe'i hargraffir yn ei bencadlys yng Nghyffordd Llandudno. Rob Irvine yw'r golygydd presennol. Mae'r papur yn rhan o grŵp Trinity Mirror.
Tudalen flaen y Daily Post yn ei fformat cyfredol | |
Math | Papur newydd dyddiol |
---|---|
Golygydd | Rob Irvine |
Pencadlys | Cyffordd Llandudno |
Gwefan swyddogol | www.dailypost.co.uk |
Dechreuodd y Daily Post Cymreig fel argraffiad o'r Liverpool Daily Post ar gyfer gogledd Cymru, ond mae'n bapur ar wahân erbyn heddiw. Ar un adeg galwai'r papur ei hun yn "the Paper for Wales", gan gystadlu a'r Western Mail fel papur newydd dyddiol Cymreig, ond bellach ceir "North Wales' best selling newspaper" ar y mast ac mae'r papur yn canolbwyntio ar newyddion y gogledd, er bod adrannau ar gyfer newyddion cenedlaethol, Prydeinig a rhyngwladol yn ogystal.
Mae gan y papur draddodiad o gael colofnwyr dadleuol a bywiog. Yn y gorffennol ysgrifennai Iorwerth Roberts ac Ivor Wynne Jones iddo. Heddiw mae'n adnabyddus am dudalennau David Banks ac Ian Parri, ill dau yn eithaf parod i godi gwrychyn ambell ddarllenydd.
Y Gymraeg
golyguErs i'r Herald Cymraeg ddirwyn i ben fel papur wythnosol annibynnol, oherwydd problemau ariannol a chwymp cylchrediad, mae'n cael ei gyhoeddi yn wythnosol fel atodiad canol-y-papur yn y Daily Post. Mae iddo ei olygydd ei hun, sef Tudur Huws Jones ar hyn o bryd.
Ar 27 Awst, 2008, lansiwyd gwefan newyddion yn y Gymraeg, sef y Daily Post Cymraeg. Yn ôl Rob Irvine, golygydd y Daily Post,
"Mae'r Daily Post yn cefnogi twf yr iaith Gymraeg. Fe fydd y wefan yn un byrlymus a chyffrous... yn cyhoeddi straeon newyddion fel maent yn datblygu ar draws Gogledd Cymru, Prydain a thu hwnt yn Gymraeg.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Yr Herald Cymraeg, atodiad y Daily Post, 27.08.08.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan y papur