Hanes Cymru (O M Edwards)
Mae Hanes Cymru yn ddwy gyfrol (Rhan Un a Rhan Dau) am hanes Cymru[1] gan Syr Owen Morgan Edwards. [2] Cyhoeddwyd y penodau'n wreiddiol fel erthyglau unigol yn y Cylchgrawn misol Cymru. Cylchgrawn yr oedd Edwards yn olygydd arni. Argraffwyd yr erthyglau ar ffurf llyfr dwy gyfrol gyntaf gan Gwmni'r Cyhoeddwyr Cymraeg Cyf yng Nghaernarfon gyda'r gyfrol gyntaf yn cael ei gyhoeddi ym 1895 a'r ail ym 1899. Bwriad y llyfrau oedd bod yn llawlyfrau i astudio hanes Cymru ar gyfer ysgolion, cyfarfodydd llenyddol a theuluoedd. Rhwng 1899 a 1911 cafwyd 13 argraffiad o'r llyfrau gyda dwy o'r ail argraffiadau wedi eu golygu a'u diwygio. Cyhoeddwyd argraffiad 1911 fel llawlyfr ar gyfer arholiadau hanes Cymru trwy gyfrwng y Gymraeg gan Fwrdd Arholi Prifysgol Rhydychen.[3]
Yng Ngwlad Arthur (Cyf 1) | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Owen Morgan Edwards |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Rhydychen |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1890s |
Genre | hanes |
Cynnwys
golyguRhan un
golyguMae'r gyfrol gyntaf yn delio a hanes Cymru o'r cyfnod boreuaf hyd farwolaeth Gruffydd ap Llywelyn ym 1063 gyda phenodau ar:
- RHAGYMADRODD
- PENNOD I CYMRU
- PENNOD II Y CENHEDLOEDD CRWYDR
- Pennod III Y Rhufeiniaid
- Pennod IV Y Saeson
- Pennod V Arthur
- Pennod VI Maelgwn Gwynedd
- Pennod VII Brwydr Caer
- Pennod VIII Colli'r Gogledd
- Pennod IX Y Cenhedloedd Dduon
- Pennod X Dau Frenin Galluog
- Pennod XI Yr Hen Grefydd
- Pennod XII Y Grefydd Newydd
- Trem Yn Ôl
Rhan Dau
golyguMae'r ail gyfrol yn trafod y cyfnod ar ôl farwolaeth Gruffydd ap Llywelyn ym 1063 hyd farwolaeth Gruffydd ap Cynan ym 1137 ac yn cynnwys y penodau:
- Rhagymadrodd
- Pennod I. Ymosodwr newydd.
- Pennod II. Tri Chryf Arfog.
- Pennod III Dau Dywysog.
- Pennod IV Brycheiniog a Morgannwg.
- Pennod V Caethiwed Gruffydd ap Cynan.
- Pennod VI Rhyfeloedd Y Brenin Coch.
- Pennod VII Llethu'r Norman a'r Cymro.
- Pennod VIII Geni Gwladgarwch.
- Pennod IX Owen ap Cadwgan.
- Pennod X Gruffydd ap Rhys.
- Pennod XI Eglwys Cymru.
- Pennod XII Diwedd Y Ddau Ruffydd.
Dolenni allanol
golyguMae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Mae copïau o destun argraffiad 1911 o'r gyfrol gyntaf ac argraffiad 1899 o'r ail gyfrol ar gael ar Wicidestun.