Hanes teuluol (meddygaeth)

Ym meddygaeth, gwybodaeth am gyflyrau sydd wedi effeithio ar aelodau teulu biolegol claf yw hanes teuluol, ac mae'n ffurfio rhan hanfodol o hanes meddygol y claf. Gofynnir cwestiynau penodol i'r claf neu'i deulu ynglŷn â iechyd ei berthnasau agosaf i ganfod unrhyw gyflyrau gall y claf fod yn arbennig fregus iddynt, ac fe gymerir sylw arbennig o glefydau etifeddol a theuluol. Nodir oedran ac iechyd pob person ac oedran ac achos farwolaeth perthanasau meirw. Gan ddefnyddio'r wybodaeth hyn gall genogram o hanes teuluol gael ei lunio.

Ffynhonnell golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am feddygaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.