Ras 21.0975 km o bellter ydy hanner marathon. Mae'r ras ei hun hanner pellter marathon llawn a gan amlaf fe'i chynhelir ar yr heol. Dros y blynyddoedd diwethaf, gwelwyd twf ym mhoblogrwydd ras yr hanner marathon.[1] Un o'r prif resymau am hyn yw am fod y pellter yn heriol, ond nid oes angen yr un lefel o hyfforddiant a marathon llawn.[1] Yn 2008, dywedodd Running USA mai'r hanner marathon yw'r ras sy'n tyfu fwyaf o ran poblogrwydd.[1] Adleisiwyd hyn mewn erthygl o 2010 gan Universal Sports.[1][2] Yn aml, cynhelir hanner marathon ar yr un diwrnod a marathon llawn, ond caiff y cwrs ei fyrhau. Gelwir hanner marathon yn ras 21K, 21.1K neu 13.1 milltir, er bod y pellteroedd yma wedi'u talgrynu ac felly nid ydynt yn gwbl gywir.

Rhedwyr yn Hanner Marathon Bryste

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3  Sometimes Half Is Better Than Whole. NY Times (24 Gorffennaf, 2008).
  2.  Half the distance, twice the fun: Half-marathons taking off. Universal Sports (20 Mai, 2010).