Ym myd chwaraeon, cystadleuaeth cyflymder ydy ras, lle mae'r cystadleuwyr yn anelu at deithio pellter neu gwblhau tasg benodol yn yr amser lleiaf posib. Gellir cyflawni ras o'r dechrau i'r diwedd mewn un rhediad parhaus neu gellir cynnal nifer o gymalau neu ragrasau gwahanol. Gan amlaf, rhedir rhagrasau ar hyd yr un cwrs ond ar adegau gwahanol. Ceir tystiolaeth cynnar o rasio ar grochenwaith o'r Roeg Hynafol, sy'n darlunio dynion yn rhedeg gan geisio bod yn y safle cyntaf. Hefyd disgrifir rasio cerbyd yn yr Iliad gan Homer.

Ras
Mathchwaraeon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Rasio aer: peilot aerobataidd Hwngaraidd Peter Besenyei ar gyflymder yn ei Extra 300 yn Lloegr