Hardraw Force
Rhaeadr yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, ydy Hardraw Force.[1] Mae'r dwr ynddi hi, sy wedi llifo oddi ar Great Shunner Fell ac Abbotside Common, yn disgyn 100 troedfedd, dyma'r rhaeadr ddi-fwlch uchaf yn Lloegr, heblaw rhaeadrau dan ddaear megis Gaping Ghyll (300m).
Math | rhaeadr |
---|---|
Ardal weinyddol | High Abbotside |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Hardraw |
Sir | Gogledd Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 54.3211°N 2.2022°W |
Mae'r rhaeadr mewn coed bach ar dir breifat sy'n perthyn i'r tafarn Green Dragon yn y pentref Hardraw, ac mae rhaid i ymwelwyr basio trwy'r dafarn (ac i dalu dwy bunt) i gyrraedd gwaelod y rhaeadr. Mae Llwybr Cenedlaethol, Llwybr y Pennines, yn mynd agos at y rhaeadr i'r gorllewin a'r de.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 12 Awst 2020