Rhaeadr

Ffrwd neu afon yn llifo dros ddibyn neu ar hyd lechwedd serth yw rhaeadr' (hefyd sgwd yn y De, pistyll yn y Gogledd). Ceir rhaeadrau'n llifo pan fo rhewlif neu fynydd iâ yn dadmer.

Pistyll Rhaeadr 0073.JPG
Data cyffredinol
Pistyll Rhaeadr
Mathnatural geographic object, body of water Edit this on Wikidata
Rhan ocwrs dŵr Edit this on Wikidata
Yn cynnwysdŵr, clogwyn Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Erthygl am y tirffurf yw hon: am y dref ym Mhowys gweler Rhaeadr Gwy.

Fel arfer ffurfir y rhaeadr pan fo afon yn ifanc.[1] Wrth i'r dŵr darro gwely'r afon gall dyllu a thynnu haen o garreg; gall hyn ddigwydd dros amser hir pan fo'r garreg yn galed, ond yn eitha sydyn gyda thywodfaen a chreigiau meddal eraill. Mae hyn yn achosi i'r rhaeadr symud yn ôl at ei thariad ar gyflymder amrywiol: hyd at un fetr a hanner y flwyddyn.

Rhaeadrau CymruGolygu

Y rhaeadr mwyaf yng Nghymru yw Rhaeadr Clogwyn y Geifr yng Nghwm Idwal, Eryri, sy'n 305 troedfedd (93 metr).[2][3]



CyfeiriadauGolygu

  1. The Family Encyclopedia of Natural History, gol. Rosalind Carreck (Hamlyn Publishing Group, 1982), tud. 246–8
  2. ogwen.360.cymru; Adalwyd 2 Ebrill 2021.
  3. Paul Williams, Rock Climbing in Snowdonia, Frances Lincoln, 2006 ISBN 0-7112-2408-0
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.