Harish Shankar

Arweinydd

Arweinydd cerddorfa a phianydd o dras Almaenig a Maleisaidd yw Harish Shankar (ganwyd 1984).

Harish Shankar
Ganwyd1984 Edit this on Wikidata
Penang Edit this on Wikidata
DinasyddiaethMaleisia, yr Almaen Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaetharweinydd Edit this on Wikidata

Mae e wedi arwain cerddorfeydd rhyngwladol fel y Royal Philharmonic Orchestra, Cerddorfa Symffoni Bournemouth, Cerddorfa Frenhinol yr Alban a'r City of Birmingham Symphony Orchestra. Yn 2024, bu'n arwain Cerddorfa Plant Cenedlaethol Prydain Fawr.[1]

Yn 2014, cafodd gymrodoriaeth iau mewn arwain gyda Choleg Cerdd Brenhinol y Gogledd, Manceinion. Rhwng 2024 a 2025, Harish oedd Cyfarwyddwr Cerdd cyffredinol Cerddorfa Symffoni Landestheater Schleswig-Holstein.[2][3]

Bywyd cynnar

golygu

Cafodd Harish ei geni ym Menang, Maleisia cyn symud i'r Almaen. Dechreuodd ganu'r piano pan oedd yn chwech oed cyn astudio yn Ysgol Gerdd Lübeck.[4] Cwblhaodd radd meistr mewn arwain yn Ysgol Gerdd Weimar.

Dolenni allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Main Orchestra Summer Concert 2024". www.flipbookpdf.net (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-08-19.
  2. "Harish Shankar has been elected General Music Director". slippedisc.com/. 12 Mehefin 2023. Cyrchwyd 6 Medi 2024.
  3. CHANNEL, THE VIOLIN (2023-06-16). "Germany's Landestheater Schleswig-Holstein Hires Next Music Director". World's Leading Classical Music Platform (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-09-06.
  4. "Harish Shankar". www.svetlanov-evgeny.com. Cyrchwyd 6 Medi 2024.