Lübeck
Dinas yn nhalaith Schleswig-Holstein yng ngogledd yr Almaen yw Lübeck. Hi yw ail ddinas y dalaith o ran poblogaeth, gyda phoblogaeth o 213,983 yn 2005. Cyhoeddwyd canol hanesyddol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1987.
![]() | |
![]() | |
Math |
dinas fawr, dinas Hanseatig, prif ganolfan ranbarthol, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district in Schleswig-Holstein ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
216,530 ![]() |
Pennaeth llywodraeth |
Jan Lindenau ![]() |
Cylchfa amser |
UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Schleswig-Holstein ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
214.21 km² ![]() |
Uwch y môr |
13 ±1 metr ![]() |
Gerllaw |
Bay of Lübeck, Trave, Elbe–Lübeck Canal, Wakenitz ![]() |
Yn ffinio gyda |
Ostholstein, Stormarn, Herzogtum Lauenburg, Ardal Nordwestmecklenburg, Krummesse ![]() |
Cyfesurynnau |
53.8697°N 10.6864°E ![]() |
Cod post |
23552–23570 ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth |
Jan Lindenau ![]() |
![]() | |
Sefydlwyd Lübeck fel Liubice gan y Slafiaid yn yr 8g, ond yn 1138 llosgwyd hi. Yn 1143, ail-sefydlwyd y ddinas gan y tywysog Almaenig Adolf II o Holstein. Gwnaed hi yn ddinas rydd o fewn yr Ymerodraeth Lân Rufeinig gan yr ymerawdwr Ffrederic II yn 1226.
Datbygodd Lübeck i fod yn ddinas bwysicaf y Cynghrair Hanseataidd ac yn brifddinas answyddogol y Cynghrair. Yn y cyfnod hwnnw, enillodd y llysenw "Carthago y Gogledd".[1] Yn 1937, dan Adolf Hitler, collodd y ddinas ei hanibyniaeth a dod yn rhan o dalaith Schleswig-Holstein.
Pobl enwog o LübeckGolygu
- Heinrich Mann, awdur
- Thomas Mann, awdur
- Paul Helwig, seicolegydd a dramodydd
- Willy Brandt, gwleidydd, Canghellor Gorllewin yr Almaen
- ↑ Thomas Benfield Harbottle, Dictionary of Historical Allusions (Llundain: Swan Sonnenschein & Co, 1903), t. 48.