Harold II, brenin Lloegr
Brenin Lloegr o 5 Ionawr 1066 hyd 14 Hydref yn yr un flwyddyn oedd Harold II neu Harold Godwinson (Hen Saesneg: 'Harold Godƿinson') (c. 1022 - 14 Hydref 1066). Ef oedd brenin Sacsonaidd olaf Lloegr a bu ar ei orsedd rhwng 6 Ionawr 1066 hyd at ei farwolaeth ym Mrwydr Hastings ar 14 Hydref yr un flwyddyn tra'n ymladd yn erbyn y Normaniaid a oedd yn cael eu harwain gan Gwilym Goncwerwr.
Ef oedd y cyntaf o dri brenin Lloegr i farw mewn rhyfel. Mab Godwin, Iarll Wessex, a'i wraig Gytha Thorkelsdóttir oedd Harold. Priododd Ealdgyth, merch Ælfgar, Iarll Mercia, a gweddw Gruffudd ap Llywelyn.
LlinachGolygu
Godwin, Iarll Wessex (c. 1001–1053) | Gytha Thorkelsdóttir | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Sweyn Godwinson | Edith Swannesha | Harold Godwinson | Ealdgyth, merch Iarll Ælfgar | Gruffydd ap Llywelyn | Tostig Godwinson | Edith o Wessex | Edward y Cyffeswr (c. 1004–1066) Brenin Lloegr (1042–1066) | ||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Godwine (g. 1049) | Edmund (g. 1049) | Magnus (g. 1051) | Gunhild (1055–1097) | Gytha o Wessex (1053–1098) | Harold (1067–1098) | Ulf (1066–wedi 1087) | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CyfeiriadauGolygu
Eginyn erthygl sydd uchod am frenhiniaeth neu aelod o deulu brenhinol. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.