Wiliam I, brenin Lloegr

teyrn, person milwrol (1028-1087)

Bu Wiliam I (glasenw: Gwilym y Gorchfygwr neu Wiliam y Concwerwr) yn frenin Lloegr o 14 Hydref 1066 hyd at ei farwolaeth ar 9 Medi 1087.

Wiliam I, brenin Lloegr
Ganwydc. 1028 Edit this on Wikidata
Falaise Edit this on Wikidata
Bu farw9 Medi 1087 Edit this on Wikidata
Rouen Edit this on Wikidata
Swyddteyrn Lloegr, dug Normandi Edit this on Wikidata
TadRobert I Edit this on Wikidata
MamHerleva Edit this on Wikidata
PriodMatilda o Fflandrys Edit this on Wikidata
PlantRobert Curthose, Rhisiart o Normandi, Wiliam II, brenin Lloegr, Adeliza, Constance o Normandi, Adela o Normandi, Harri I, brenin Lloegr, Alberta, Agatha o Normandi, Matilda o Normandi, Cecilia o Normandi Edit this on Wikidata
PerthnasauEdward y Cyffeswr, Odo, Count of Champagne Edit this on Wikidata
LlinachLlinach Normandi Edit this on Wikidata

Wiliam oedd Brenin Normanaidd cyntaf Lloegr. Roedd yn ddisgynnydd i'r arweinydd Llychlynnaidd, Rolo, ac yn Ddug Normandi ers 1035.[1] Roedd ei afael ar Normandi yn gadarn erbyn 1060, wedi brwydr hir yn ceisio sefydlogi ei afael ar yr orsedd. Lansiodd ymdrech i reoli Lloegr chwe blynedd yn ddiweddarach, pan drechodd Harold, Brenin Lloegr, ym Mrwydr Hastings yn 1066.

Wiliam oedd mab Robert I, Dug Normandi, a anwyd i'w feistres Herleva. Yn ystod ei blentyndod a’i ieuenctid, bu brwydro rhwng aelodau gwahanol deuluoedd aristocrataidd Normandi er mwyn ennill rheolaeth dros y Dug pan oedd yn blentyn. Yn 1047, llwyddodd Wiliam i chwalu gwrthryfel a rhoddodd hyn y cyfle iddo sefydlogi ei awdurdod dros y ddugiaeth, proses na chwblhaodd tan tua 1060. Rhoddodd ei briodas yn y 1050au â Matilda o Fflandrys gefnogwyr pwerus iddo yn Fflandrys, a oedd yn ffinio ar Normandi. Erbyn ei briodas, roedd Wiliam wedi trefnu pwy fyddai’n eu penodi i swyddi pwysig fel esgobion ac abadau yn yr Eglwys Normanaidd. Galluogodd ei bŵer iddo ehangu ei orwelion, ac o ganlyniad sefydlogodd ei awdurdod dros Maine yn 1062, a oedd hefyd yn ffinio ar Normandi.

Yn y 1050au a dechrau’r 1060au, daeth i'r amlwg bod Wiliam yn ymgeisydd oedd â hawl ar orsedd Lloegr, a oedd ar y pryd ym meddiant Edward y Cyffeswr, ei gefnder cyntaf. Roedd ymgeiswyr posibl eraill hefyd, gan gynnwys yr iarll Seisnig, Harold Godwinson, a enwyd gan Edward y Cyffeswr ar ei wely angau fel ei olynydd yn Ionawr 1066. Er hynny, dadleuodd Wiliam fod Edward wedi addo’r goron iddo ef, a bod Harold Godwinson wedi tyngu ei gefnogaeth i'w hawl ar y goron. Ar sail hynny, penderfynodd Wiliam adeiladu fflyd fawr o longau a goresgyn Lloegr yn 1066. Cafodd fuddugoliaeth gadarn yn erbyn Harold Godwinson ym Mrwydr Hastings, lle lladdwyd Harold ar 14 Hydref 1066. Wedi sawl brwydr arall, coronwyd Wiliam yn Frenin Lloegr ar Ddiwrnod Nadolig 1066 yn Llundain. Bu nifer o wrthryfeloedd aflwyddiannus yn erbyn Wiliam fel brenin, ond erbyn 1075 roedd gafael gadarn gan Wiliam ar Loegr, a galluogodd hyn iddo i dreulio’r mwyafrif o’i deyrnasiad ar gyfandir Ewrop.

Bu ymdrechion cychwynnol y Normaniaid o dan arweinyddiaeth Wiliam i reoli’r tiroedd a oedd ym meddiant rheolwyr Cymru yn fethiant i raddau. Ond wedi marwolaeth Wiliam yn 1087 dechreuodd y Normaniaid ddangos eu rheolaeth dros y Cymry, gan greu brwydr am bŵer a fyddai’n para am ganrifoedd.[2]

Nodweddwyd blynyddoedd olaf Wiliam ar yr orsedd gan drafferthion yn ei diroedd Ewropeaidd, problemau gyda’i fab, Robert, a’r Daniaid hefyd yn bygwth goresgyn Lloegr. Yn 1086, gorchmynnodd arolwg arbennig o’r holl diroedd yn Lloegr. Dyma gynnwys Llyfr Dydd y Farn. Bu farw ym Medi 1087 wrth arwain ymgyrch yng ngogledd Ffrainc, a chladdwyd ef yn Caen. Yn ystod ei deyrnasiad yn Lloegr, adeiladwyd cyfres o gestyll, sefydlwyd cenhedlaeth newydd o aristocratiaid Normanaidd ar dir Lloegr, a bu newidiadau yng nghyfansoddiad y glerigaeth yn Lloegr. Ni lwyddodd i gyfuno ei holl diroedd mewn un ymerodraeth ond ceisiodd weinyddu a rheoli pob uned yn annibynnol. Rhannwyd ei diroedd wedi ei farwolaeth: rhoddwyd Normandi i Robert, ac etifeddwyd Lloegr gan ei ail fab ganedig a oroesodd, sef Wiliam.[3]

  • Robert Curthose (tua 1054 – 1134)
  • Adelizia (neu Alys) (1055 – tua 1065)
  • Cecilia (tua 1056 – 1126)
  • Wiliam II (tua 1056 – 1100), brenin Lloegr 1087–1100
  • Rhisiart (1057 – tua 1081)
  • Adela (tua 1062 – 1138)
  • Agatha (tua 1064 – tua 1080)
  • Constance (tua 1066 – 1090)
  • Matilda
  • Harri I (tua 1068 – 1135), brenin Lloegr 1100–1135

Cyfeiriadau

golygu
  1. "William I [known as William the Conqueror] (1027/8–1087), king of England and duke of Normandy". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/9780198614128.001.0001/odnb-9780198614128-e-29448. Cyrchwyd 2020-09-08.
  2. Davies, John, 1938- (2007). A history of Wales (arg. Rev. ed). London: Penguin. tt. 100–102. ISBN 0-14-028475-3. OCLC 82452313.CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
  3. Douglas, David C. (David Charles), 1898-1982, (1999). William the Conqueror : the Norman impact upon England (arg. New ed). New Haven: Yale University Press. ISBN 978-0-300-18554-6. OCLC 793519807.CS1 maint: extra punctuation (link) CS1 maint: multiple names: authors list (link) CS1 maint: extra text (link)
Rhagflaenydd:
Harold II
Brenin Loegr
25 Rhagfyr 10669 Medi 1087
Olynydd:
Wiliam II