Harri Williams

Awdur Cymraeg a ennillodd y Fedal Ryddiaith yn 1978

Awdur Cymraeg a enillodd y Fedal Ryddiaith ym 1978 oedd Harri Williams (19131983).

Harri Williams
Ganwyd1913 Edit this on Wikidata
Bu farw1983 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Anfield, Lerpwl. Roedd yn faban pan gollwyd ei dad, y Capten Richard Williams, ar y môr yn Half Assini, Ghana. Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Anfield Road yna Ysgol Llanallgo wedi symud i Farian Glas, Ynys Mon i fyw gyda'i nain. Wedi dychwelyd i Lerpwl parhaodd gyda'i addysg yn y 'Collegiate School'. Gadawodd yr ysgol ym 1929 a mynd i weithio fel clerc yn swyddfa Silcocks yn ardal y dociau. Yn 1934 fe'i derbyniwyd i Goleg Santes Catherine Rhydychen i baratoi ar gyfer y Weinidogaeth. Oddi yno aeth i Goleg y Bala i ddilyn y cwrs bugeiliol.

Bu'n weinidog yn Nhywyn, Meirionnydd o 1939 nes 1948. Yn y cyfnod hwn treuliodd ddwy flynedd yn ysbytai Machynlleth a Thalgarth yn dioddef o'r diciau a ffrwyth ei brofiad yno yw ei gyfrol Ward 8 a ddaeth yn agos at gipio'r Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol, Llanelli, 1962. Ym 1948 symudodd i fod yn weinidog yn Waunfawr, Sir Gaernarfon cyn symud i ofalu am y Tabernacl a Hirael Bangor ym 1955. Bu hefyd yn gofalu am yr adran fugeiliol yn y Coleg Diwinyddol yn Aberystwyth.[1]

Diddordebau golygu

Magodd ddiddordeb mewn gwylio adar am gyfnod gan gadw dyddiadur adarydda am y flwyddyn 1958. Ysgrifennodd yn helaeth ac yn ddiddorol am y broses o ddysgu.

Llyfryddiaeth golygu

  • Chwech o gewri cerdd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Cyf, 1962)
  • Ward 8 (Gwasg Gomer, 1963)
  • Rhagor o gewri cerdd (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion, 1967)
  • Y Crist cyfoes (Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1967)
  • Crwydro'r Ynys Hir (Llyfrau'r Dryw, 1968)
  • Crwydro Cernyw (Llyfrau'r Dryw, 1971)
  • Rhyfel yn Syria (Christopher Davies, 1972)
  • Ein ffydd heddiw (Argraffty'r Methodistaid Calfinaidd, 1976)
  • Y Ddaeargryn fawr (Gwasg Gomer, 1978) (Medal Ryddiaith)
  • Bonhoeffer, Y Meddwl Modern (Gwasg Gee, 1981)
  • Deunydd Dwbl (Gwasg Gomer, 1982)
  • Mam a fi (Gwasg Gomer, 1983)[2]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.