Harry Saltzman

sgriptiwr ffilm a aned yn Sherbrooke yn 1915

Cynhyrchydd ffilm a theatr oedd Harry Saltzman (27 Hydref 191528 Medi 1994), sydd fwyaf enwog am gynhyrchu'r gyfres o ffilmiau James Bond gyda Albert R. Broccoli. Treuliodd y rhan fwyaf o'i fwyaf yn byw yn Denham yn Swydd Buckingham.

Harry Saltzman
Ganwyd27 Hydref 1915 Edit this on Wikidata
Sherbrooke Edit this on Wikidata
Bu farw28 Medi 1994 Edit this on Wikidata
Paris Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America, Canada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Aiglon College Edit this on Wikidata
Galwedigaethcynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Office of Strategic Services Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganwyd Saltzman yn Sherbrooke, Quebec, Canada,[1] ond rhedodd i ffwrdd o'i gartref pan oedd yn 15 oed yn ôl ei frch Hilary Saltzman yn rhaglen ddogfen Ian Fleming Foundation, Harry Saltzman: Showman. Ymunodd â syrcas pan oedd yn 17, gan mynd ar daith gyda hwy am nifer o flynyddoedd. Erbyn cychwyn yr Ail Ryfel Byd ym 1939, roedd yn gwasanaethu yn Byddin Canada yn Ffrainc. Mae'n debyg y bu ei wasanaeth yn y fyddin yn cynnwys tipyn o waith cudd yn canfod gwybodaeth.[2]

Ar ôl y rhyfel, canfodd Saltzman ei hun ym Mharis, lle cyfarfodd â ffoadur o Romania, Jaquie, a priodasont. Bu'n gweithio fel sgowt talent yn chwilio am bobl i ymddangos mewn cynyrchiadau Ewropeaidd ar y llwyfan, y teledu ac mewn ffilm. Fe gasglodd nifer enfawr o gysylltiadau yn y busnes adloniant, a daeth ef yn y person a drodd pawb ato pan oedd ganddynt broblem gyda talent neu cynhyrchu. Er ei holl uchelgeisiau, roedd rhain yn flynyddoedd caled ar gyfer teulu Saltzman, yn ôl ei fab Steven. Yn raddol, daeth Saltzman yn fwy llwyddiannus gan gynhyrchu dramâu ar y llwyfan. Symudodd y teulu o bedwar i Brydain yng nghanol yr 1950au, lle ddechreuodd gwmni Woodfall Productions, unwith eto yn cynhyrchu ar gyfer y theatr, cyn mynd i mewn i'r busnes ffilm, gan gynhyrchu The Iron Petticoat (1956), addasiad simeatig o ddrama.


   Eginyn erthygl sydd uchod am Ganadiad. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau golygu

  1. Nodyn:Imdb name
  2. Documentary: Harry Saltzman: Showman