Y Deyrnas Unedig

gwladwriaeth sofran yn Ewrop
(Ailgyfeiriad o Deyrnas Unedig)

Gwladwriaeth yw Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon neu'r Deyrnas Unedig (DU) (hefyd Y Deyrnas Gyfunol (DG)), sy'n cynnwys gwledydd Prydain Fawr (Lloegr, Yr Alban, Cymru) a thalaith Gogledd Iwerddon. Fe'i lleolir i ogledd-orllewin cyfandir Ewrop ac fe'i hamgylchynir gan Fôr y Gogledd, Môr Udd a Môr Iwerydd ac a sefydlwyd ar 12 Ebrill 1927. Dan sofraniaeth y Deyrnas Unedig, ond heb fod yn rhan o'r brif uned gyfansoddiadol, mae tiriogaethau dibynnol y Goron yn Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw, a nifer o diriogaethau tramor.

y Deyrnas Gyfunol
Y Deyrnas Gyfunol
Y DU (the UK)
ArwyddairDieu et mon droit Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran, gwlad, pŵer trefedigaethol, ynys-genedl, gwlad OECD Edit this on Wikidata
PrifddinasLlundain Edit this on Wikidata
Poblogaeth67,326,569 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 Ebrill 1927 Edit this on Wikidata
AnthemGod Save the King Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethRishi Sunak Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC±00:00 Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Saesneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolCommon Travel Area Edit this on Wikidata
GwladBaner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Arwynebedd242,495 km² Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.6°N 2°W Edit this on Wikidata
Cod SYGK02000001 Edit this on Wikidata
GB-UKM Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff gweithredolLlywodraeth y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Corff deddfwriaetholSenedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y wladwriaeth
teyrn y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Pennaeth y wladwriaethSiarl III Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Prif Weinidog y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethRishi Sunak Edit this on Wikidata
Map
Ariannol
Cyfanswm CMC (GDP)$3,122,480 million, $3,070,668 million Edit this on Wikidata
Arianpunt sterling Edit this on Wikidata
Canran y diwaith6 ±1 % Edit this on Wikidata
Cyfartaledd plant1.83 Edit this on Wikidata
Mynegai Datblygiad Dynol0.929 Edit this on Wikidata

Hanes golygu

Daeth Lloegr yn deyrnas unedig yn y 10g. Daeth Cymru, a fu dan reolaeth Seisnig ers Statud Rhuddlan ym 1284, yn rhan o Deyrnas Lloegr at bwrpasau deddfwriaethol trwy Ddeddfau Uno 1536. Gyda Deddf Uno 1707, cytunodd seneddau Lloegr a'r Alban i uno eu teyrnasoedd fel Teyrnas Prydain Fawr (er iddynt rannu'r un brenin er 1603). Ym 1800, cyfunwyd Teyrnas Prydain Fawr â Theyrnas Iwerddon (a fu dan reolaeth Seisnig uniongyrchol o 1169 hyd 1603) i greu Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon. Wedi cread y Dalaith Rydd Wyddelig ym 1922, allan o 26 o siroedd Iwerddon, parhaodd 6 sir yn y gogledd yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a chafodd y wladwriaeth honno ei hail-enwi yn Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ym 1927.

Chwaraeodd y Deyrnas Unedig, gwladwriaeth ddominyddol y 19g mewn diwydiant a grym morwrol, rôl sylweddol yn natblygiad democratiaeth seneddol, ynghyd â chyfraniadau pwysig ym myd gwyddoniaeth. Yn anterth ei grym teyrnasai'r Ymerodraeth Brydeinig dros chwarter y ddaear. Yn ystod hanner cyntaf yr 20g gwanhaodd nerth y DU, yn rhannol oherwydd y ddau Ryfel Byd. Yn ystod ail hanner y ganrif gwelwyd datgymalu'r Ymerodraeth a chryfhau cysylltiadau â'r Ewrop fodern a llewyrchus. Serch hynny, er fod y DU wedi ymaelodi a'r Undeb Ewropeaidd, roedd gwahaniaeth barn ynghylch aelodaeth gan unigolion o fewn y Blaid Lafur a'r Ceidwadwyr. Parhaodd yr hollt o fewn y Ceidwadwyr i'r 2000au gan arwain at refferendwm aelodaeth yn 2016. Mae diwygiad cyfansoddiadol yn fater dadleuol ar hyn o bryd: mae Tŷ'r Arglwyddi wedi cael ei ddiwygio'n ddiweddar ac mae gan Gymru, Gogledd Iwerddon a Llundain gynulliadau gyda graddau gwahanol o bŵer; fe sefydlwyd hefyd senedd yn yr Alban. Mae mudiad Gweriniaeth Brydeinig yn cael sylw yn y cyfryngau o bryd i'w gilydd, er bod cefnogaeth i'r frenhiniaeth Brydeinig yn dal i fodoli, yn enwedig yn Lloegr, ond heb fod mor gryf ag yr oedd hi yn y gorffennol: ond dydy'r syniad o gael Gweriniaeth Brydeinig ddim yn cael ei gefnogi gan weriniaethwyr a chenedlaetholwyr yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae'r Deyrnas Unedig yn aelod o'r Gymanwlad a Sefydliad Cytundeb Gogledd yr Iwerydd (NATO). Mae hefyd yn aelod parhaol o Gyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig, gyda phŵer gwaharddiad. Ymunodd a'r Gymuned Ewropeaidd yn 1973. Yn dilyn refferendwm yn 2016 gadawodd y DU yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020.

Gweler hefyd: Brenhinoedd a breninesau'r Deyrnas Unedig; Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon; Hanes Cymru; Hanes Iwerddon; Hanes yr Alban; Hanes Lloegr.

Gwleidyddiaeth golygu

Mae'r Deyrnas Unedig (neu'r Deyrnas Gyfunol i ddefnyddio fersiwn arall ar yr enw yn y Gymraeg) yn frenhiniaeth gyfansoddiadol. Mae'r llywodraeth yn gweithredu yn enw'r Brenin ac mae'n atebol i'r senedd a thrwy'r senedd i'r etholwyr. Llundain yw prifddinas y DU a Lloegr a dyna leoliad y llywodraeth a'r senedd. Y Brenin Siarl III yw pennaeth y wladwriaeth, wedi iddi esgyn i'r orsedd ym 2022. Ar y cyfan y mae'n cyflawni dyletswyddau seremonïol, a'r Prif Weinidog sy'n rheoli'r wladwriaeth mewn gwirionedd.

Gwledydd, Rhanbarthau, Siroedd, ac Ardaloedd golygu

Mae'r Deyrnas Unedig yn cynnwys tair gwlad - Yr Alban, Cymru, Lloegr - a thalaith Gogledd Iwerddon, sydd yn eu tro yn cynnwys yr israniadau canlynol:

Mae Cymru yn cynnwys 22 Awdurdod Unedol, sef 10 Bwrdeistref Sirol, 9 Sir, a 3 Dinas. Yn ogystal cedwir siroedd 1974-1996 fel 'siroedd seremonïol' ond heb unrhyw swyddogaeth mewn llywodraeth leol.

Mae'r Alban yn cynnwys 32 Awdurdod Unedol. Mae Gogledd Iwerddon yn cynnwys 24 o Ardaloedd, 2 Ddinas, a 6 Sir.

Mae Lloegr wedi ei rhannu yn naw Rhanbarth Swyddi'r Llywodraeth, sef Gogledd-ddwyrain Lloegr, Gogledd-orllewin Lloegr, Swydd Efrog a'r Hwmbr, Dwyrain Canolbarth Lloegr, Gorllewin Canolbarth Lloegr, Dwyrain Lloegr, Llundain Fwyaf, De-ddwyrain Lloegr a De-orllewin Lloegr. Mae gan bob rhanbarth ei Siroedd a/neu Siroedd Metropolitan a/neu awdurdodau unedol, ac eithrio Llundain a rennir yn fwrdeistrefi.

Yn ogystal mae nifer o diriogaethau dibynnol gwahanol yn perthyn i'r Deyrnas Unedig; gweler Gwladfa'r Goron. Ni chyfrifir Ynys Manaw nac Ynysoedd y Sianel yn rhanbarthau o'r Deyrnas Unedig yn ôl y gyfraith; dibynyddion y goron Brydeinig ydynt, ond y mae'r Deyrnas Unedig yn gyfrifol am eu materion allanol.

Rhennir brenhines y Deyrnas Unedig yn symbolaidd gyda 16 prif wledydd eraill, a adnabyddir gyda'i gilydd fel Teyrnasoedd y Gymanwlad, er bod y DU ddylanwad gwleidyddol bychan dros y cenedlaethau annibynnol hyn.

Erthyglau eraill: Dinasoedd y Deyrnas Unedig, Trefydd y Deyrnas Unedig.

Daearyddiaeth golygu

Mae'r rhannau helaeth o dir Lloegr yn fryniog, ond mae'r wlad yn fwy mynyddig yn y gogledd; mae'r llinell rhwng y tiroedd hyn yn rhedeg rhwng yr afonydd Tees ac Exe. Afonydd Tafwys a Hafren yw prif afonydd Lloegr (er bod yr ail yn tarddu ger Pumlumon yng Nghymru); mae'r prif ddinasoedd yn cynnwys Llundain, Birmingham, Manceinion, Sheffield, Lerpwl, Leeds, Bryste a Newcastle upon Tyne. Ger Dover mae Twnnel y Sianel yn cysylltu Lloegr a Ffrainc.

Mae Cymru yn wlad fynyddig gan fwyaf: yr Wyddfa yw'r copa uchaf, gydag uchder o 1,085 m uwch lefel y môr, ac mae'r mynyddoedd mawr eraill yn cynnwys Bannau Brycheiniog, Pumlumon, Y Berwyn, Y Carneddau a'r Glyderau yn Eryri, a Bryniau Clwyd. I'r gogledd mae Ynys Môn. Mae'r prif afonydd yn cynnwys afon Hafren, afon Gwy, afon Teifi, afon Conwy ac afon Dyfrdwy. Caerdydd yw'r Brifddinas, yn ne Cymru; mae dinasoedd a threfi mawr eraill yn cynnwys Abertawe, Castell-nedd, Caerfyrddin, Penfro, Aberystwyth, Dolgellau, Caernarfon, Bangor, Caergybi, Llandudno, Bae Colwyn, Y Rhyl, a Wrecsam.

Mae daearyddiaeth yr Alban yn gymysg, gydag iseldiroedd yn y de a'r dwyrain ac ucheldiroedd yn y gogledd a'r gorllewin, yn cynnwys Ben Nevis, mynydd uchaf y DU (1343 m). Mae llawer o lynnoedd a breichiau Môr hir a dwfn yn yr Alban, a elwir yn firthau, a lochau. Fe gyfrir hefyd dyrfa o ynysoedd i orllewin a gogledd yr Alban, e.e. Ynysoedd Heledd, Ynysoedd Erch, ac Ynysoedd Shetland. Caeredin, Glasgow, ac Aberdeen yw'r prif ddinasoedd.

Mae Gogledd Iwerddon, rhanbarth gogledd-ddwyrain ynys Iwerddon, yn fryniog gan mwyaf. Belffast a Deri yw'r prif ddinasoedd.

Economi golygu

Mae'r Deyrnas Unedig, sy'n fasnachwr pwysig a chanolfan ariannol, yn meddu economi cyfalafol, sy'n un o'r fwyaf yng ngorllewin Ewrop. Dros y ddau ddegawd diwethaf fe leiheuwyd perchenogaeth gyhoeddus yn ddirfawr gan y llywodraeth trwy raglenni preifateiddio, ac fe gyfyngwyd ar dwf y Wladwriaeth Les. Mae amaethyddiaeth yn ddwys, wedi ei mecaneiddio yn drwm, ac yn effeithlon yn ôl safonau Ewropeaidd, gan gynhyrchu tua 60% o anghenion lluniaethol gyda dim ond 1% o'r llu llafur. Mae gan y DU gronfeydd eang o lo, nwy naturiol, ac olew; mae cynhyrchiad cynradd egni yn cyfrif tuag at 10% o Gynnyrch Mewnwladol Crynswth, un o rannau uchaf unrhyw wladwriaeth ddiwydiannol. Mae gwasanaethau, yn enwedig bancio, yswiriant, a gwasanaethau busnes, yn ffurfio cyfartaledd uchaf GWC o bell ffordd, wrth i ddiwydiant trwm barhau i edwino.

Gohiriodd llywodraeth Blair ateb cwestiwn cyfranogiad y DU yn y system Ewro, gan nodi pump o brofion economaidd y dylai eu pasio cyn i'r wlad gynnal refferendwm.

Demograffaeth golygu

Saesneg yw'r brif iaith, yn Lloegr. Mae ieithoedd eraill yn cynnwys y Gymraeg, Gaeleg yr Alban a Sgoteg. Siaredir hefyd llawer o ieithoedd eraill gan fewnfudwyr o lefydd eraill yn y Gymanwlad.

Diwylliant golygu

Ceir diwylliant gwahanol iawn gan y bedair wlad. Mae Lloegr, yn gartref i ddwy o brifysgolion enwocaf y byd: Prifysgol Caergrawnt a Phrifysgol Rhydychen, ac y mae wedi cynhyrchu gweinyddwyr a pheirianwyr enwog, er enghraifft y Cymro Steve Jones (biolegydd), yr Albanwr James Watt, Charles Darwin (Sais), William Jones (mathemategwr) ac Alexander Fleming.

Ymhlith yr ysgrifenwyr enwog o'r DU y mae Saunders Lewis, y chwiorydd Bronte, Agatha Christie, Charles Dickens, Syr Arthur Conan Doyle a J. R. R. Tolkien. Mae beirdd pwysig yn cynnwys Dafydd ap Gwilym, Robert Burns, Thomas Hardy, Alfred Tennyson, Dylan Thomas, Cynan a William Wordsworth.

Mae'r cyfansoddwyr Joseph Parry, William Mathias, Grace Williams, Edward Elgar, Robert Carver, Arthur Sullivan, William Walton, Ralph Vaughan Williams, Benjamin Britten a Michael Tippett wedi gwneud cyfraniadau mawr i gerddoriaeth. Cyfansoddwyr sydd dal yn byw yw John Tavener, Harrison Birtwistle a Oliver Knussen.

Mae gan y Deyrnas Unedig amryw o gerddorfeydd gan gynnwys Cerddorfa Opera Cenedlaethol Cymru, Cerddorfa Symffoni'r BBC, y Gerddorfa Ffilharmonig Frenhinol, y Ffilharmonia, Cerddorfa Symffoni Llundain, Royal Scottish National Orchestra a Cherddorfa Ffilharmonig Llundain, ac fe astudiodd llawer o gerddorion enwog yng ngholegau cerddoriaeth y DU. Oherwydd ei lleoliad ac am resymau economaidd eraill, Llundain yw un o ddinasoedd pwysicaf cerddoriaeth y byd - mae gan y ddinas sawl neuadd gyngerdd bwysig ac mae hi'n gartref i'r Tŷ Opera Brenhinol.

Mae'r Deyrnas Unedig wedi cynhyrchu'r bandiau enwog Roc a rôl a phoblogaidd Y Trwynau Coch, The Beatles, y Rolling Stones, Primal Scream, Led Zeppelin, The Who, Pink Floyd, Catatonia, ac Oasis.

Ymhlith ei harlunwyr enwog ceir Gwen John, John Constable, Joshua Reynolds, William Blake a J.M.W. Turner. yn yr 20g, mae Francis Bacon, David Hockney, Bridget Riley, Kyffin Williams a'r celfyddwyr pop Richard Hamilton a Peter Blake yn bwysig. Yn ein hamser ni mae arlunwyr eraill wedi bod yn enwog, yn enwedig Damien Hirst a Tracey Emin.

Mae gan y Deyrnas Unedig draddodiad theatraidd a cheir yn Llundain lawer o theatrau, gan gynnwys y Theatr Genedlaethol Frenhinol.

Gwyliau Banc a Chyhoeddus
Dyddiad Enw
1 Ionawr Dydd Calan
2 Ionawr (Yr Alban yn unig)
17 Mawrth Dydd Gŵyl Sant Padrig (Gogledd Iwerddon yn unig)
Y Dydd Gwener cyn Sul y Pasg Dydd Gwener y Groglith
Y Dydd Sul wedi'r lleuad llawn cyntaf ers cyhydnos y gwanwyn Sul y Pasg
Y diwrnod wedi Sul y Pasg Dydd Llun y Pasg
Dydd Llun cyntaf mis Mai Gŵyl Banc Calan Mai
Dydd Llun olaf mis Mai Gŵyl Banc y Gwanwyn
12 Gorffennaf Brwydr y Boyne - Orangemen's Day (Gogledd Iwerddon yn unig)
Dydd Llun diwethaf yn Awst Gŵyl Banc yr Haf
25 Rhagfyr Dydd Nadolig
26 Rhagfyr Dydd Gŵyl San Steffan (nid yn Yr Alban)

Dolenni allanol golygu

Chwiliwch am Y Deyrnas Unedig
yn Wiciadur.