Hawys Gadarn
merch Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn (Owen de la Pole) a Joan Corbet
Merch Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn (Owen de la Pole) a Joan Corbet oedd Hawys Gadarn (1291 - cyn 1353).[1]
Hawys Gadarn | |
---|---|
Ganwyd | 1291 Powys |
Bu farw | 1353 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Owain ap Gruffudd ap Gwenwynwyn |
Mam | Joan Corbet |
Priod | John Charleton |
Plant | John Charleton, Isabella de Cherleton |
Fe'i ganed ym Mhowys.
Gan ei bod yn aeres ei hunig frawd, Gruffydd (m. 1309), daeth yn ward y Goron, a rhoddwyd hi'n wraig i John Charlton ynghyd â barwniaeth Powys, yn yr un flwyddyn. Cafodd ddau fab: John, ail arglwydd (Charlton) Powys ac Owen, a fu farw'n ddietifedd. Mae'n debygol mai yn nhŷ'r Brodyr Llwydion yn yr Amwythig y claddwyd hi.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig; gwefan y Llyfrgell Genedlaethol; adalwyd 22 Mehefin 2015
- ↑ www.geni.com; adalwyd 22 Mehefin 2015
Llyfryddiaeth
golygu- George Thomas Orlando Bridgeman "The Princes of Upper Powys" Montgomeryshire Collections Cyf. 1 tud. 201