Heboglys Attenborough
Math o heboglys yw Heboglys Attenborough (Lladin: Hieracium attenboroughianum) a'i unig gynefin yw ar y Gribyn yng nghanol Bannau Brycheiniog. Cafodd y planhyg ei enwi gan y naturiaethwr Dr Tim Rich ar ôl Syr David Attenborough.[1]
Darganfuwyd y planhighyn yn 2005 a dywedodd Tim Rich: Roedd ei darganfod yn eiliad cyffrous iawn. Penderfynais ei alw ar ôl David Attenborough gan ei fod wedi fy ysbrydoli i fod yn ecolegydd pan oeddwn yn 17 oed.'
Mae'r heboglys o'r un teulu â dant y llew a llygad y dydd ac mae ganddo flodau melyn.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ www.walesonline.co.uk; adalwyd 6 Chwefror 2015