Bannau Brycheiniog
cadwyn o fynyddoedd ym Mhowys
Mae hon yn erthygl am y gadwyn mynyddoedd. Am y parc cenedlaethol, gweler Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Math | cadwyn o fynyddoedd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog |
Sir | Powys |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 5,010.64 ha |
Uwch y môr | 842 metr |
Cyfesurynnau | 51.8833°N 3.4333°W, 51.88139°N 3.44391°W, 51.867866°N 3.417484°W |
Cadwyn fynydd | Mynyddoedd Cambria |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig |
Manylion | |
Cadwyn o fynyddoedd yn ne Powys (Brycheiniog gynt) yw Bannau Brycheiniog. Maent yn gorwedd yng nghanol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a enwir ar eu hôl. Y Bannau yw'r mynyddoedd uchaf yng Nghymru i'r de o Gader Idris. Pen y Fan (886 m) yw'r copa uchaf.
Gorwedd Bannau Brycheiniog yn hanner gogleddol y triongl o dir uchel a geir rhwng Y Fenni a Merthyr Tudful yn y de ac Aberhonddu i'r gogledd.