Awdures Americanaidd yw Helen Prejean C.S.J. (ganwyd 21 Ebrill 1939) sydd yn lleian ac aelod o eglwys St. Joseph, New Orleans. Mae wedi dadlau dros ddiddymu'r y gosb eithaf drwy gydol ei hoes.

Helen Prejean
Ganwyd21 Ebrill 1939 Edit this on Wikidata
Baton Rouge Edit this on Wikidata
Man preswylNew Orleans Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Saint Paul, Ontario
  • Prifysgol Ottawa Edit this on Wikidata
Galwedigaethamddiffynnwr hawliau dynol, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Pacem in Terris, Medal Laetare Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.sisterhelen.org/ Edit this on Wikidata

Fe'i ganed yn Baton Rouge, Louisiana ar 21 Ebrill 1939. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Saint Paul, Ontario.[1][2][3]

Sefydlodd Prejean y grwpiau SURVIVE, i helpu teuluoedd dioddefwyr a lofruddiwyd. Gwasanaethodd fel Cadeirydd Cenedlaethol y Glymblaid Genedlaethol i Ddiddymu'r Gosb Eithaf (the National Coalition to Abolish the Death Penalty) rhwng 1993 a 1995. Cynorthwyodd i sefydlu Ymgyrch Moratoriwm, gan geisio gwneud yr ymarfer o ddienyddio yn anghyfreithlon.

Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei llyfr poblogaidd, Dead Man Walking (1993), sy'n seiliedig ar ei phrofiadau gyda dau confict ar res marwolaeth y bu'n gynghorydd ysbrydol iddynt cyn eu dienyddio. Yn ei llyfr, archwiliodd effeithiau'r gosb eithaf ar bawb dan sylw. Addaswyd y llyfr fel ffilm 1995 o'r un enw, gyda Susan Sarandon a Sean Penn yn serennu. Fe'i haddaswyd hefyd fel opera, a gynhyrchwyd gyntaf yn 2000 gan Gwmni Opera San Francisco.

Magwraeth golygu

Roedd Helen Prejean yn ferch i Augusta Mae (née Bourg; 1911–1993), nyrs, a Louis Sebastian Prejean (1893–1974), cyfreithiwr. Ymunodd â Chwiorydd Saint Joseph o Medaille ym 1957.[4]

Ym 1962, derbyniodd radd yn y Celfyddydau mewn Saesneg ac Addysg gan Goleg Dominicanaidd y Santes Fair, New Orleans, Louisiana. Yn 1973, derbyniodd radd Meistr yn y Celfyddydau mewn addysg grefyddol o Brifysgol Saint Paul, coleg cysylltiedig ym Mhrifysgol Ottawa. Mae hi wedi bod yn Gyfarwyddwr Addysg Grefyddol ym Mhlwyf St Frances Cabrini yn New Orleans, ac mae wedi dysgu mewn ysgolion uwchradd iau ac uwch. [5][6]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Cymrodoriaeth Guggenheim (1995), Gwobr Pacem in Terris, Medal Laetare (1996)[7] .

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb125264515. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  2. Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb125264515. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  3. Dyddiad geni: Internet Movie Database. dyddiad cyrchiad: 14 Awst 2015. "Helen Prejean". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Sister Helen Prejean". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  4. "Sister Helen Prejean". University of Louisiana. Archifwyd o'r gwreiddiol ar Mai 31, 2016. Cyrchwyd Mai 27, 2015.
  5. Anrhydeddau: https://laetare.nd.edu/recipients/#info1996.
  6. "Biography". Ministry Against the Death Penalty. Cyrchwyd Mehefin 18, 2013.
  7. https://laetare.nd.edu/recipients/#info1996.