Lleian yw dynes sy'n byw bywyd crefyddol neilltuedig, un ai ar ei phen ei hun neu mewn cymuned, ac yn dilyn rheolau arbennig. Gelwir dyn sy'n byw yr un math o fywyd yn fynach. Ceir lleianod mewn nifer o grefyddau, ond yn arbennig mewn Cristnogaeth a Bwdhaeth.

Dwy leian Gatholig yn Sevilla, Sbaen.

Tueddir i ddefnyddio "lleian" am berson sy'n byw mewn cymuned a elwir yn lleiandy; ond mewn gwirionedd mae meudwyes, sy'n byw ar ei phen ei hun, hefyd yn fath ar leian.

Cristnogaeth golygu

Ceir lleianod yn yr Eglwys Uniongred, yr Eglwys Gatholig a'r Eglwys Anglicanaidd.

Cyfeirir at nifer o fenywod enwog yn yr Eglwys Celtaidd fel lleianod, er iddynt hwy bron i gyd wedi priodi a chael plant

Bwdhaeth golygu

Ym Mwdhaeth Theravada, gelwir mynach yn bhikkhuni, a'r rheol fynachaidd yn patimokkha.


Gweler hefyd golygu


  Eginyn erthygl sydd uchod am grefydd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.