Helen Prothero-Lewis
Nofelydd poblogaidd o Gymru oedd Helen Prothero-Lewis (15 Mehefin 1853 – 7 Awst 1946).
Helen Prothero-Lewis | |
---|---|
Ganwyd | 15 Mehefin 1853 |
Bu farw | 7 Awst 1946 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | nofelydd, llenor |
Cafodd ei geni yn Llandeilo, sir Gaerfyrddin, yn ferch i'r cyfreithiwr John Prothero Lewis a'i wraig, Frances Elizabeth Shipley Lewis. Roedd ei brawd hi, R. Shipley Lewis, yn gyfreithiwr yn Llandeilo. [1] Priododd â'r cyfreithiwr James Jacob George Pugh (m. 1904) ym 1895. Roedden nhw'n byw yn Twickenham.
Ysgrifennodd Prothero-Lewis un ar hugain o nofelau rhamantaidd rhwng 1890 a 1928. [2] Ysgrifennodd hi straeon byrion a cherddi hefyd, ar gyfer cyfnodolion gan gynnwys The Girl's Own Paper . [3] Addaswyd tair o'i nofelau yn ffilmiau mud: As God Made Her (1920), The Silver Bridge (1920), [4] a Love and the Whirlwind (1922).
Bu farw Prothero-Lewis yn Llandeiloym 1946, yn 93 oed. [5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Death of Mr. R. Shipley Lewis, Notable Llandilo Solicitor". The Welshman and General Advertiser for the Principality of Wales. 1927-02-18. t. 6. Cyrchwyd 2023-08-26 – drwy Newspapers.com.
- ↑ "Helen Prothero-Lewis". Oxford Reference (yn Saesneg). doi:10.1093/oi/authority.20110803100350873. Cyrchwyd 2023-08-25.
- ↑ "Stories by Helen Prothero Lewis". The Girl's Own Paper Index (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-08-25.[dolen farw]
- ↑ Young, R. G. (2000). The Encyclopedia of Fantastic Film: Ali Baba to Zombies (yn Saesneg). Hal Leonard Corporation. t. 569. ISBN 978-1-55783-269-6.
- ↑ "Obituary: Miss Agnes Anne Lewis". Western Mail. 1943-06-01. t. 3. Cyrchwyd 2023-08-26 – drwy Newspapers.com.