Helo Sut Da Chi?
Rhaglen radio o'r 1960au oedd Helo Sut Da Chi? a ddisgrifir fel y rhaglen bop Cymraeg cyntaf. Cychwynnodd yn 1967 ac fe'i gyflwynwyd gan Hywel Gwynfryn. Roedd yn cael ei ddarlledu ar foreau Sadwrn ar radio'r BBC yng Nghymru (fel rhaglen rhanbarthol ar BBC Radio 4).[1]
Enghraifft o'r canlynol | cyfres radio |
---|
Roedd y rhaglen yn cyflwyno recordiau "am yn ail â rwdlan creadigol". Daeth nifer o ddywediadau y rhaglen yn adnabyddus yn cynnwys 'hysbys' (talfyriad o hysbyseb).[2]
Yn 1977 lansiodd BBC Radio Cymru fel gorsaf ar wahan, a symudodd Hywel i gyflwyno y rhaglen foreol Helo Bobol.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Hywel Gwynfryn. BBC Cymru. Adalwyd ar 25 Mawrth 2017.
- ↑ Hefin Wyn (2002). Be Bop a Lula'r Delyn Aur - Hanes Canu Poblogaidd Cymraeg. Y Lolfa. ISBN 9780862436346