Hywel Gwynfryn
Darlledwr o Gymro yw Hywel Gwynfryn (ganwyd 13 Gorffennaf 1942). Cafodd ei eni yn Llangefni, Ynys Môn, a chafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Llangefni a Choleg Cerdd a Drama Caerdydd. Mae wedi bod yn gyflwynydd radio a theledu ers 1964.
Hywel Gwynfryn | |
---|---|
Ganwyd | Hywel Gwynfryn Evans ![]() 13 Gorffennaf 1942 ![]() Ynys Môn ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ysgrifennwr, cyflwynydd teledu, darlledwr, cyflwynydd radio ![]() |
llofnod | |
GyrfaGolygu
Fe ymunodd a'r BBC yn 1964 fel cyflwynydd ar raglen gylchgrawn dyddiol ar deledu. Dechreuodd gyflwyno'r rhaglen bop Cymraeg gyntaf Helo Sut Da Chi? ar y radio yn 1968. Ymunodd a'r adran rhaglenni plant yn 1970 a theithiodd y byd yn ffilmio rhaglenni dogfen ar gyfer Bilidowcar.
Mae wedi bod yn cyflwyno ar BBC Radio Cymru ers sefydliad y sianel. Bu hefyd yn cyflwyno o faes yr Eisteddfod ers 1966 ar radio a theledu.
Ar y radio roedd yn cyflwyno'r rhaglen foreol Helo Bobol ac yn 1980 dechreuodd gyflwyno Rhaglen Hywel Gwynfryn, sioe sgwrsio deledu a ddarlledwyd yn fyw ar nos Sul. Yn 1990, cyflwynodd rhaglen deledu Ar Dy Feic oedd yn dilyn hanes teuluoedd oedd wedi symud o Gymru i ddilyn eu breuddwyd mewn amryw fannau yn y byd.[1] Cyd-gyflwynodd y rhaglen foreol ar Radio Cymru Hywel a Nia hyd at 2008.
Ysgrifennodd y geiriau i nifer o ganeuon pop, yn ogystal â phedwar pantomeim, a'r ffilm Y Dyn 'Nath Ddwyn y Dolig ar gyfer S4C.
Cafodd ei urddo i wisg werdd yr Eisteddfod yn y 1970au ac yna'r wisg wen yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd 1988 am wasanaethau i ddarlledu.[2]
Bywyd personolGolygu
Roedd yn briod ac Anja[3][4] ac roedd ganddynt bump o blant, yn cynnwys Huw Evans. Bu farw Anja ar 6 Hydref 2018 yn 66 mlwydd oed.[5] Mae gan Gwynfryn dau blentyn o'i briodas gyntaf.[6]
LlyfryddiaethGolygu
Mae Gwynfryn yn awdur neu gyd-awdur ar sawl llyfr, cynnwys hunangofiant Margaret Williams, cofiant David Lloyd, cofiant Hugh Griffith a chyfrol am hanes Ryan a Ronnie. Cyhoeddwyd ei hunangofiant, Y Dyn 'i Hun ym mis Tachwedd 2004 gan Wasg Gwynedd (ISBN 9780860742050).
CyfeiriadauGolygu
- ↑ (Saesneg) Welsh Stars - Hywel Gwynfryn.
- ↑ Steddfodau Hywel (Awst 2006).
- ↑ Robin Turner. New book highlights life of Ryan and Ronnie - 'The Welsh Morecambe and Wise' (en) , Wales Online, Media Wales, 2 Tachwedd 2014. Cyrchwyd ar 14 Ebrill 2016.
- ↑ Cylchgrawn Gwylwyr S4C - Sgrîn Rhifyn 16. S4C (Nadolig 2010). Adalwyd ar 14 Ebrill 2016.
- ↑ Announcing the passing of Anja Gwynfryn EVANS (13 Hydref 2018). Adalwyd ar 24 Hydref 2018.
- ↑ Yr ifanc a ŵyr? Hywel Gwynfryn a Huw Evans , BBC Cymru Fyw, 3 Mawrth 2016.