Hen Bethau Anghofiedig
Nofel fer gan Mihangel Morgan yw Hen Bethau Anghofiedig. Y Lolfa a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2017. Yn 2019 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Mihangel Morgan |
Cyhoeddwr | Y Lolfa |
Gwlad | Cymru |
Iaith | Cymraeg |
Argaeledd | mewn print |
ISBN | 9781784615062 |
Genre | Nofelau Cymraeg |
Disgrifiad byr
golyguStori ysbryd yw'r nofel. Yn ôl broliant y llyfr (2017):
Un noson hir o aeaf, mae dau hen ffrind yn cwrdd ar daith drên. Mae gan Merfyn stori iasoer i’w rhannu, un sy’n dechrau gydag etifeddu clamp o dy ar ôl ei fodryb, yr awdures enwog Mona Moffat. Mae ef a’i bartner, Harry, yn breuddwydio am adnewyddu’r hen le ac ymddeol a fywyd gwyllt dinas Llundain … ond wrth i Merfyn godi’r clawr ar orffennol ei deulu mae gwirioneddau erchyll yn bygwth eu rhewi hyd at fêr eu hesgyrn.
Mae'r teitl yn dod o linell y gerdd adnabyddus "Cofio" gan Waldo Williams.[2] Mae'r cerdd yn galaru am golled anochel y gorffennol o'r cof. Mae arwyddocâd yr ymadrodd yng nghyd-destun y nofel ychydig yn wahanol, sy'n awgrymu ei bod yn well anghofio rhai pethau.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Gwales; adalwyd 28 Hydref 2019
- ↑ "Cofio"; Gwefan Cymdeithas Waldo Williams; adalwyd 28 Hydref 2019