Henriette Goldschmidt
Awdures o'r Almaen oedd Henriette Goldschmidt (23 Tachwedd 1825 – 30 Ionawr 1920) sy'n cael ei hystyried yn nodedig am ei gwaith fel ffeminist, awdur plant, cyfieithydd ac ieithydd.
Henriette Goldschmidt | |
---|---|
Ganwyd | 23 Tachwedd 1825 Krotoszyn |
Bu farw | 30 Ionawr 1920 Leipzig |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor |
Bywgraffiad
golyguGanwyd Henriette Goldschmidt yn Krotochin, yn nhalaith Posen, Prwsia, yn ferch i Eva Goldschmidt (née Laski) a'r marsiandiwr Iddewig, Levin Benas. Bu farw ei mam pan oedd yn bum mlwydd oed. Yn 1853 priododd ei chefnder, Abraham Meir Goldschmidt, gŵr gweddw gyda thri mab a oedd hefyd yn rabbi y gynulleidfa Iddewig-Almaenaidd yn Warsaw. Bum mlynedd yn ddiweddarach cafodd ei gŵr ei benodi yn rabbi Leipzig a symudodd y teulu i gyd yno. Ymrôdd i'r gymuned Iddewig-Almaenaidd yn Leipzig lle daeth dan ddylanwad syniadaeth Friedrich Fröbel, sylfaenydd kindergarten, y system addysg ar gyfer plentyndod cynnar. Cafodd ei hannog gan ei gŵr i ddilyn ei diddordebau ym myd addysg ac aeth ymlaen i astudio hanes, llenyddiaeth, addysgu ac athroniaeth ar ei phen ei hun.
Yn 1865 trefnodd Goldschmidt gynhadledd o ferched Almaenaidd ar y cyd gyda Louise Otto-Peters ac Auguste Schmidt a sefydlwyd Cymdeithas Merched yr Almaen (Allgemeiner Deutcher Frauenverein) ganddynt er mwyn gweithio tuag at wella bywyd merched.[1] Yn 1867 bu Goldschmidt ynghlwm wrth drefniadau i gyflwyno deiseb i'r Reichstag yn cefnogi hawliau merched i gael mynediad i addysg a chyflogaeth, ac roedd yn llofnodwr ar y ddeiseb i amddiffyn plant anghyfreithlon. Parhaodd i ysgrifennu ac i siarad yn gyhoeddus am yr angen am addysg gynnar ac addysg i ferched ar hyd ei hoes.
Bu farw ar 30 Ionawr 1920 yn Leipzig ac fe'i claddwyd yn yr Hen Fynwent Iddewig yno.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Henriette Goldschmidt (née Benas)". www.jewishvirtuallibrary.org. Cyrchwyd 2020-01-30.
- ↑ "Henriette Goldschmidt | Jewish Women's Archive". jwa.org. Cyrchwyd 2020-01-30.