Henry Charles

diwinydd, llenor a mathemategwr

Mathemategwr ac awdur o Gymro oedd Henry Charles (17781840). Ganwyd yn Ffynon Loyw, plwyf Breudeth, sir Benfro, yn fab i Henry Charles, amaethwr lleol a fu'n aelod gyda'r Annibynwyr yng nghanrif 18. Derbyniodd ei addysg yn ysgol capel Annibynwyr Trefgarn Owen, ac yn ddiweddarach cyfrannodd lawer at yr achos hwnnw trwy gyfrwng erthyglau diwinyddol mewn misolion crefyddol megis Yr Efangylydd a Seren Gomer er enghraifft. Ymddiddorai yn bennaf yng ngwyddor rhifyddiaeth, ond meddai ar y ddawn i farddoni yn ogystal.

Henry Charles
Ganwyd1778 Edit this on Wikidata
Breudeth Edit this on Wikidata
Bu farw26 Rhagfyr 1840 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdiwinydd, mathemategydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata

Bu farw yn 1840 yn 62 mlwydd oed, a chladdwyd ef ym mynwent Breudeth. Gadawodd arian i gapel Trefgarn Owen ac i'r Gymdeithas Genhadol.

Ffynonellau golygu

  • Y Diwygiwr, 1840, 322;
  • Ewyllys yn Ll.G.C.;
  • Brawdy MSS.