Seren Gomer

Mae Seren Gomer yn gylchlythyr misol sy'n cael ei gyhoeddi gan Gapel Gomer, Abertawe.

Rhifyn cyntaf o Seren Gomer 1 Ionawr, 1814

Seren Gomer oedd y papur newydd wythnosol cyntaf i'w gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg. Cyhoeddwyd y rhifyn cyntaf ar 1 Ionawr 1814 yn Abertawe[1].

Cyhoeddwr Seren Gomer oedd Joseph Harris (Gomer), oedd yn weinidog gyda'r Bedyddwyr yn Abertawe. Roedd yn cynnwys newyddion o Gymru a thramor, ac eitemau llenyddol. Daeth y rhediad gyntaf i ben ar ôl 85 rhifyn, yn rhannol oherwydd y dreth uchel ar newyddiaduron a diffyg incwm o hysbysebion.

Pan bu farw Joseph Harris yn 52 oed ym 1825, gwerthwyd y papur i gyhoeddwr yng Nghaerfyrddin a daeth yn gylchgrawn chwarterol i'r Bedyddwyr. Parhaodd y cylchgrawn ar y ffurf hwn tan 1983.

Ail-gychwynwyd cyhoeddi Seren Gomer ar ffurf cylchlythyr digidol misol gan Gapel Gomer ar 12 Chwefror 2018.

CyfeiriadauGolygu

  1. Blitz destroyed chapel Gwefan Thisissouthwales.co.uk 24-06-2011