Clerigwr a fu'n Esgob Bangor ac yn ddiweddarach yn Archesgob Caergaint oedd Henry Deane (c. 1440 - 15 Chwefror 1503).

Henry Deane
Ganwyd1440 Edit this on Wikidata
Bu farw15 Chwefror 1503 Edit this on Wikidata
Lambeth Palace Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethoffeiriad Catholig, barnwr, esgob Catholig Edit this on Wikidata
SwyddRoman Catholic Archbishop of Canterbury, Esgob Catholig Bangor, roman catholic bishop of Salisbury Edit this on Wikidata

Ceir cofnod amdano fel Canon yn Llanthony Secunda ger Caerloyw yn 1457. Apwyntiwyd ef yn Arglwydd Ganghellor Iwerddon yn 1494, yna yn 1496 yn Ddirprwy Raglaw Iwerddon, ond symudwyd ef o'r swydd ymhen ychydig fisoedd oherwydd ei berthynas ddrwg a'r offeiriaid lleol.

Apwyntiwyd ef yn Esgob Bangor ar 13 Ebrill 1494. Ar 7 Rhagfyr 1499, trosglwyddwyd ef i fod yn Esgob Salisbury. Ar 26 Ebrill 1501, apwyntiwyd ef yn Archesgob Caergaint; y mynach cyntaf i ddal y swydd ers 135 mlynedd, a'r olaf.