13 Ebrill
dyddiad
<< Ebrill >> | ||||||
Ll | Ma | Me | Ia | Gw | Sa | Su |
1 | 2 | 3 | 4 | 5 | ||
6 | 7 | 8 | 9 | 10 | 11 | 12 |
13 | 14 | 15 | 16 | 17 | 18 | 19 |
20 | 21 | 22 | 23 | 24 | 25 | 26 |
27 | 28 | 29 | 30 | |||
2020 | ||||||
Rhestr holl ddyddiau'r flwyddyn |
13 Ebrill yw'r trydydd dydd wedi'r cant (103ydd) o'r flwyddyn yng Nghalendr Gregori (104ydd mewn blynyddoedd naid). Erys 262 diwrnod arall hyd ddiwedd y flwyddyn.
Digwyddiadau
golygu- 1829 - Llofnododd Sior IV, brenin Prydain Fawr, Ddeddf Rhyddfreinio'r Catholigion, a ganiataodd i Gatholigion fod yn aelodau seneddol.
- 1890 - Ethol David Lloyd George yn AS Bwrdeistrefi Sir Gaernarfon.
- 1992 - Neil Kinnock yn ymddiswyddo fel arweinydd y Blaid Lafur.
- 2013 - Amsterdam: Mae'r Rijksmuseum yn ailagor.
Genedigaethau
golygu- 1519 - Catrin de Medici, brenhines Ffrainc (m. 1589)
- 1570 - Guto Ffowc, milwr a theyrnfradwr (m. 1606)
- 1593 - Thomas Wentworth, 1af Iarll o Strafford, gwleidydd (m. 1641)
- 1743 - Thomas Jefferson, Arlywydd yr Unol Daleithiau (m. 1823)
- 1771 - Richard Trevithick, peiriannydd (m. 1833)
- 1852 - Franklin Winfield Woolworth, dyn busnes (m. 1919)
- 1863 - Walter E. Rees, gweinyddwr rygbi'r undeb (m. 1949)
- 1866 - Butch Cassidy, herwr a lleidr (m. 1908)
- 1877 - Grenville Morris, pel-droediwr (m. 1959)
- 1899 - Alfred Schutz, cymdeithasegydd ac athronydd (m. 1959)
- 1906 - Samuel Beckett, awdur ac dramodydd (m. 1989)[1]
- 1909 - Eudora Welty, awdures (m. 2001)
- 1919 - Howard Keel, actor (m. 2004)
- 1920 - Liam Cosgrave, Prif Weinidog Iwerddon (m. 2017)
- 1922 - Julius Nyerere, gwleidydd (m. 1999)
- 1939 - Seamus Heaney, bardd (m. 2013)
- 1941 - Fonesig Margaret Price, soprano (m. 2011)
- 1946 - Al Green, canwr
- 1949 - Christopher Hitchens, awdur a newyddiadurwr (m. 2011)
- 1951 - Peter Davison, actor
- 1962 - Edivaldo Martins Fonseca, pêl-droediwr (m. 1993)
- 1983 - Nicole Cooke, seiclwraig
- 1987 - Brandon Hardesty, actor a digrifwr
- 1992 - George North, chwaraewr rygbi'r undeb
- 2000 - Khea, canwr
- 2001 - Neco Williams, pel-droediwr
Marwolaethau
golygu- 1605 - Boris Godunov, tsar Rwsia, tua 54
- 1695 - Jean de la Fontaine, ysgrifennwr, 73
- 1810 - Maria Elisabeth Vogel, arlunydd, 63
- 1863 - George Cornewall Lewis, gwleidydd, 56
- 1868 - Tewodros II, brenin Ethiopia, 50?
- 1903 - Daniel Silvan Evans, geiriadurwr, 85
- 1908 - Aasta Hansteen, arlunydd, 83
- 1950 - Marion Koogler McNay, arlunydd, 67
- 1981 - Alice Boner, arlunydd, 91
- 1996 - George Mackay Brown, bardd, 74
- 2006 - Fonesig Muriel Spark, awdures, 88
- 2015 - Günter Grass, awdur, 87
- 2016
- Gwyn Thomas, bardd, 79[2]
- Gareth Thomas, actor, 71[3]
- 2018
- Joy Laville, arlunydd, 94[4]
- Galina A. Peschkova, botanegydd, 88
- 2019 - Edith Faucon, arlunydd, 99
- 2023 - Fonesig Mary Quant, dylunydd ffasiwn, 93
Gwyliau a chadwraethau
golygu- Penblwydd Thomas Jefferson (yr Unol Daleithiau)
- Diwrnod yr Athro (Ecwador)
- Pasg (1941, 1952, 2031, 2036)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Samuel Beckett Irish author". Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Mai 2024.
- ↑ Gwyn Thomas wedi marw , Golwg360, 14 Ebrill 2016.
- ↑ "Blake's 7 star Gareth Thomas dies at age 71" (yn Saesneg). Digital Spy. 13 Ebrill 2016. Cyrchwyd 14 Ebrill 2016.
- ↑ "Joy Laville". Inverarte Art Gallery (yn Saesneg). Cyrchwyd 9 Mai 2024.