Fforiwr a morwr o Loegr oedd Henry Hudson (tua 15651611) sydd yn nodedig am fentro i archwilio Tramwyfa'r Gogledd Ddwyrain a Thramwyfa'r Gogledd Orllewin, a'i ddarganfyddiadau ar hyd arfordiroedd a dyfrffyrdd Gogledd Ddwyrain yr Amerig.

Henry Hudson
Paentiad gan Robert Walter Weir (1835) sydd yn dychmygu Henry Hudson a'i griw yn glanio yn Verplanck Point, Efrog Newydd, ym 1609.
Ganwyd1565 Edit this on Wikidata
Teyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Bu farwUnknown Edit this on Wikidata
James Bay Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Galwedigaethfforiwr, morwr Edit this on Wikidata

Nid oes tystiolaeth o'i deulu, ei enedigaeth, nac ei ieuenctid. Er gwaethaf, mae'n debyg yr oedd yn Llundeiniwr,[1] a chredir iddo gael ei eni yn y 1560au.[2] Mae cofnodion yn cyfeirio ato fel meistr, yn hytrach na chapten, ac yn awgrymu felly yr oedd yn forlywiwr o ran ei swydd.[1]

Cafodd ei hurio gan Gwmni Mysgofi i ganfod Tramwyfa'r Gogledd Ddwyrain, a methiant fuont ei ymdrechion ym 1607 a 1608. Aeth ar drydedd fordaith i ganfod llwybr i Asia ar gais Cwmni Iseldiraidd India'r Dwyrain ym 1609. Pan gafodd ei atal gan y rhew yn Spitsbergen, penderfynodd Hudson hwylio i'r gorllewin i geisio canfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin. Trwy fforio baeau Chesapeke, Delaware, ac Efrog Newydd, hawliwyd yr ardal honno yng Ngogledd America gan yr Iseldirwyr. Ariannwyd ei bedwaredd fordaith, a honno i ganfod Tramwyfa'r Gogledd Orllewin, gan y Saeson ym 1610. Wedi cyfnod hir o aros yn y rhew, bu miwtini gan ei griw a chafodd Hudson, ei fab, a saith dyn arall eu gadael i farw.

Enwir Bae Hudson, Afon Hudson, a Chulfor Hudson ar ei ôl.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 (Saesneg) James McDermott, "Hudson, Henry (d. 1611)", Oxford Dictionary of National Biography (2004). Adalwyd ar 1 Chwefror 2021.
  2. (Saesneg) Henry Hudson. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 1 Chwefror 2021.

Darllen pellach

golygu
  • Richard O'Connell, Hudson's Fourth Voyage (Philadelphia: Atlantis Editions, 1978).
  • Douglas Hunter, Half Moon: Henry Hudson and the Voyage that Redrew the Map of the New World (Efrog Newydd: Bloomsbury Press, 2009).
  • Peter C. Mancall, Fatal Journey: The Final Expedition of Henry Hudson (Efrog Newydd: Basic Books, 2009).