Henry Parry (clerigwr)
clerigwr a hynafiaethydd
Clerigwr a hynafiaethydd oedd Henry Parry (1766 – 17 Rhagfyr 1854). Roedd yn fab i Henry Parry, Brynllech, Llanuwchllyn. Cafodd ei addysg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, gan ymaelodi ar 1 Mehefin 1786, yn 20 oed; a graddiodd gyda B.A. yn 1790.[1]
Henry Parry | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 1766 ![]() Llanuwchllyn ![]() |
Bu farw | 17 Rhagfyr 1854 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | clerig, hynafiaethydd ![]() |
Gyrfa golygu
Roedd Parry yn ficer yn Llanasa o 1798 hyd 1854 a chafodd ei wneud yn un o ganoniaid Llanelwy yn Fai, 1833. Roedd yn flaenllaw fel eisteddfodwr ac fel hynafiaethydd. Fe gafodd ail argraffiad gramadeg y Dr. John Davies o Fallwyd ei olygu a gyhoeddasid gyntaf yn 1621. Mae rhai llythyrau a ysgrifennodd wedi eu cadw yng nghasgliadau'r Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cyfeiriadau golygu
- ↑ "PARRY, HENRY (1766? - 1854), clerigwr a hynafiaethydd | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-16.