Agor y brif ddewislen

Llanuwchllyn

pentref yng Ngwynedd

Pentref a chymuned tua dwy filltir i'r de o ben deheuol Llyn Tegid ym Meirionnydd, Gwynedd yw Llanuwchllyn ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n sefyll oddi ar yr A494, 5 milltir i'r de-orllewin o'r Bala, yn rhimyn hir ar hyd y B4403. Adnabyddir y pen gogleddol fel 'Y Llan' a'r pen deheuol fel 'Y Pandy'. Mae'r gofgolofn i O.M. Edwards a'i fab Ifan yn sefyll wrth y briffordd o flaen Ysgol O. M. Edwards yr ysgol gynradd leol.

Llanuwchllyn
Llanuwchllyn.jpg
Math pentref, cymuned Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôl Llyn Tegid Edit this on Wikidata
Cysylltir gyda Owen Morgan Edwards, Ifan ab Owen Edwards Edit this on Wikidata
Poblogaeth 877 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Gwynedd Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Gerllaw Llyn Tegid Edit this on Wikidata
Yn ffinio gyda Y Bala Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.86°N 3.67°W Edit this on Wikidata
Cod SYG W04000085 Edit this on Wikidata
Cod OS SH877299 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Dafydd Elis-Thomas (Annibynnol)
AS/au Liz Saville Roberts (Plaid Cymru)

Ceir sawl afon yn y cyffiniau gan gynnwys Afon Lliw sy'n llifo i'r Ddyfrdwy am ryw hanner milltir cyn aberu yn Llyn Tegid ger Glan-Llyn Isa. Daw'r Twrch o'r de, gan hollti'r pentre'n ddwy ran 'Llan' a 'Phandy'.

Yr eglwysGolygu

 
Eglwys Sant Deiniol, Llanuwchllyn

Yn eglwys Deiniol Sant ceir set o hen lestri cymun efydd, a berthynai, meddir, i Abaty Cymer. Nid yw'r rhan fwyaf o'r adeilad presennol yn hen (cafodd ei adnewyddu yn 1873), ond gellir gweld beddfaen cerfiedig hynod y marchog Ieuan ap Gruffudd yno, a fu farw yn 1370 a chofeb i John ap Gruffydd ap Madoc ap Iorwerth o Lanllyn, dyddiedig 1395. Ceir hefyd llech-gofeb er cof am Rowland Vaughan (c. 1587 - 1667), y bardd a'r cyfieithydd o Gaer Gai ( sy'n sefyll rhwng y pentref a'r Bala). Fe'i codwyd mewn steil Gothig ar gost o £1,600.[1]

EnwogionGolygu

 
Y gofeb i O.M. Edwards a'i fab Ifan

Mae'r ardal wedi cynhyrchu nifer syfrdanol o enwogion, yn arbennig felly ym maes llenyddiaeth, gan gynnwys:

Digwyddiadau tywydd cofiadwyGolygu

  • Llif mawr 1781
”Onibai am lifogydd mawr 1781 yn ardal Llanuwchllyn a Chwm Cynllwyd, mae’n debyg na fuaswn i’n bod! Daeth fy hen, hen, hen daid, Evan Evans, oedd yn saer pontydd, drosodd o sir Drefaldwyn i Lanuwchllyn i drwsio ac ailadeiladu pontydd a ddifrodwyd gan y llif. Setlodd a phriododd yn yr ardal. Roedd ei farc (EE) ar garreg gloi hen bont a ddiflannodd rhyw 30 mlynedd yn ôl pan sythwyd y ffordd rhwng Garneddwen a Llanuwchllyn”.[2]
”A minnau wedi byw a gweinidogaethu yn Llanuwchllyn o 1967 i 1992, diddorol oedd y sôn am Li Mawr 20 Mehefin 1781 ar ddiwrnod Ffair y Llan, a'r nodyn gan Llŷr Gruffudd am Evan Evans un o'i hynafiaid yn croesi'r Berwyn o Lanwddyn i Lanuwchllyn i ailadeiladu'r pontydd a sgubwyd ymaith. Roedd Sali Jones oedd yn cadw siop yn y Bala ac a ddaeth yn wraig i Thomas Charles, ar ei ffordd adref o'r Ffair pan wrthododd ei cheffyl fynd dros Bont y Pandy funudau cyn i afon Twrch ei chwalu. Pe byddai Sali wedi boddi ni fyddai Thomas Charles wedi dod i'r Bala ac mae'n bosibl na fyddai Ysgol Sul na Chymdeithas y Beibl wedi dod i fodolaeth. Un o ysgrifau enwog O M Edwards, a faged yn sŵn afon Twrch, yw:
”Yr Hen Fethodist, sef hen gloc ei hynafiaid ym Mhen y Geulan ger Pont y Pandy, a gafodd ei ddarganfod yn nofio ar Lyn Tegid wedi'r lli. Fe'i hachubwyd a'i ddychwelyd i'r hen gartref lle bu'n cadw'r amser am genedlaethau.”
Ynglŷn â'r wraig a gollodd ei bywyd pan foddwyd ei chartref yn y Ceunant Ucha, Cwm Peniel (Cwm Llwyngwern codi'r Peniel cyntaf ym 1828) holwyd ei gŵr pam ei fod yn mynd i fyny yn lle i lawr i chwilio amdani. 'Am ei bod yn gwneud pob dim yn groes i bawb', oedd yr ateb.”[3]
  • Llif 1880

Ym 1880 cafwyd Lli arall a chwalodd Bont y Llan - y bont dros y Ddyfrdwy, a bu difrod mawr fel ym 1781.[3]

  • Llif 2001

Ar 3 Gorffennaf 2001 cafwyd Lli arall pan orlifodd afon Lliw ym Mhennantlliw a pheri cryn ddifrod.[3]

Cyfrifiad 2011Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanuwchllyn (pob oed) (617)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanuwchllyn) (496)
  
83.5%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanuwchllyn) (485)
  
78.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanuwchllyn) (107)
  
37.9%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Gweler hefydGolygu

CyfeiriadauGolygu

  1. Gwefam British Listed Buildings; Teitl: Parish Church of St Deiniol, Llanuwchllyn adalwyd 25 Medi 2014
  2. Hanesyn Llyr Gruffydd, ym Mwletin Llên Natur rhifyn 54
  3. 3.0 3.1 3.2 Hanesyn WJ Edwards, ym Mwletin Llên Natur rhifyn 54
  4. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  5. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  6. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.

Gweler hefydGolygu

Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: