Hibatullah Akhundzada

Arweinydd crefyddol a gwleidyddol o Affganistan yw Mawlawi Hibatullah Akhundzada (ganed 7 Mehefin 1961) sydd yn arweinydd y Taliban ers 2016 ac yn Emir Affganistan ers 2021.

Hibatullah Akhundzada
Ganwyd1961 Edit this on Wikidata
Panjwā'ī Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAffganistan Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwladweinydd, Ysgolhaig Islamaidd, llywodraethwr, arweinydd crefyddol, Islamic jurist Edit this on Wikidata
SwyddAmir al-Mu'minin of the Taliban, Supreme Leader of Afghanistan Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Taliban Edit this on Wikidata

Mae Hibatullah Akhundzada yn hanu o ddosbarth Panjwai yn nhalaith Kandahar ac yn perthyn i'r Nurzai, un o lwythau'r Pashtun. Pregethwr oedd ei dad. Ymfudodd ei deulu i Bacistan yn sgil dechrau Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan ym 1979.[1]

Ymunodd Akhundzada â gwrthryfelwyr y mujahideen yn erbyn y lluoedd Sofietaidd. Yn sgil enciliad y Sofietiaid, daeth yn gyfarwydd fel arweinydd crefyddol yn hytrach na chadlywydd. Ym 1994, yn ystod y rhyfel cartref rhwng y Jamiat-e Islami a grwpiau eraill y cyn-mujahideen, ymunodd Akhundzada â'r Taliban a fe oruchwyliai y llysoedd sharia. Yn sgil gorchfygiad Affganistan gan y Taliban, daeth yn un o brif farnwyr y wlad. Wedi cwymp y Taliban yn 2001, arweiniai Akhundzada criw o ysgolheigion Islamaidd yn y Taliban ar ffo, a chyhoeddodd sawl ffatwa.

Gwasanaethodd yn ddirprwy i'r Mylah Akhtar Mansour, a fu'n arweinydd y Taliban o Orffennaf 2015 hyd at ei ladd gan gyrch drôn ym Mhacistan ym Mai 2016. Rhyw ddyddiau'n ddiweddarach, etholwyd Akhundzada i olynu Mansour gan gyngor arweinyddiaeth a chlerigiaeth y Taliban. Ffigur anadnabyddus ac annisgwyl oedd Akhundzada, ac mae'n debyg iddo gael ei ddewis er mwyn osgoi rhwyg rhwng cefnogwyr y ddau brif ddewis, Sirajuddin Haqqani a Muhammad Yaqoub.[1]

Yn sgil ymgyrch lwyddiannus y Taliban i orchfygu Affganistan yn 2021, cyhoeddwyd Hibatyllah Akhundzada yn bennaeth ar y llywodraeth newydd ac yn Emir Affganistan. Mae'n debyg ei fod mewn cyswllt agos ag arweinwyr eraill y Taliban sydd wedi ymsefydlu yn Quetta, Pacistan.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Mujib Mashal, Taimoor Shah a Zahra Nader, "Taliban Name Lesser-Known Cleric as Their New Leader", The New York Times (25 Mai 2016). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 8 Medi 2021.