Ymgyrch ymosodol y Taliban (2021)

Ymgyrch filwrol gan y Taliban yn erbyn llywodraeth Gweriniaeth Islamaidd Affganistan oedd ymgyrch ymosodol y Taliban (2021) a lansiwyd ar 1 Mai 2021 yn sgil diwedd Rhyfel Affganistan (2001–21) ac enciliad yr holl luoedd tramor a fu yn y wlad ers 2001. Nod y Taliban oedd i orchfygu tiriogaeth ar draws y wlad a cheisio adfer yr Emiriaeth Islamaidd a fuont yn llywodraethu arni o 1996 i 2001. Ym misoedd Mehefin a Gorffennaf 2021, llwyddodd y Taliban gipio mwy o diriogaeth nag ar unrhyw bryd ers eu cwymp yn 2001.[1] Erbyn canol mis Awst amgylchynwyd y brifddinas Kabul, y ddinas fawr olaf yn y wlad dan reolaeth y llywodraeth, gan luoedd y Taliban. Ffoes yr Arlywydd Ashraf Ghani o'r wlad, a chwympodd y llywodraeth genedlaethol. Cipiwyd Kabul ganddynt ar 15 Awst, gan sicrhau buddugoliaeth i'r Taliban.

Ymgyrch ymosodol y Taliban
Map o ymgyrch ymosodol y Taliban.
Enghraifft o'r canlynolgwrthdaro arfog, ymosodiad milwrol Edit this on Wikidata
Dyddiad2021 Edit this on Wikidata
Rhan oRhyfel Affganistan Edit this on Wikidata
Dechreuwyd1 Mai 2021 Edit this on Wikidata
LleoliadAffganistan Edit this on Wikidata
Yn cynnwysAugust 2021 Kabul attack, Capture of Zaranj, Cwymp Kabul Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Cefndir golygu

Daeth ymgyrchoedd milwrol ISAF yn Affganistan i ben yn 2014, a lansiwyd ôl-ymgyrch gan NATO i hyfforddi a chynghori'r lluoedd Affganaidd. Pum mlynedd yn ddiweddarach, bu grym y Taliban wedi adfer gymaint iddynt orfodi Unol Daleithiau America i arwyddo cytundeb heddwch ac i encilio'u holl luoedd o'r wlad, a daeth ôl-ymgyrch NATO yn Affganistan i ben yn 2021.

Dechreuodd yr Unol Daleithiau gyflafareddu â'r Taliban yn 2018, wedi eu cynorthwyo gan ddiplomyddion o Sawdi Arabia, Pacistan, a'r Emiradau Arabaidd Unedig, yr unig dair gwlad i gynnal cysylltiadau â'r ddwy ochr. Canolbwyntiodd y trafodaethau hyn ar enciliad lluoedd Americanaidd o Affganistan, a gobeithiodd yr Americanwyr ddarbwyllo'r Taliban i negodi â'r llywodraeth y Weriniaeth Islamaidd yn uniongyrchol. Yng Ngorffennaf 2019 ymunodd llywodraeth Kabul â'r trafodaethau am y tro cyntaf, a chytunasant â chynrychiolwyr o'r Taliban i ragor o drafodaethau gyda'r nod o ailgymodi yn Affganistan. Er nad oedd y rhai hynny o'r Taliban wedi derbyn awdurdod gan eu harweinyddiaeth i ddod i gytundeb yn swyddogol, cafodd y cyfarfod ei ystyried yn gychwyn da i'r broses heddwch. O fewn deufis cafwyd cytundeb fras gan yr Unol Daleithiau a'r Taliban, ond gohiriwyd rhagor o gyfarfodydd rhwng y ddwy ochr yn sgil ymosodiad yn Kabul gan hunan-fomiwr o'r Taliban ar 5 Medi a laddodd milwr Americanaidd.[2] Yn Chwefror 2020 cytunodd y Taliban i ddechrau cyd-drafod yn swyddogol â'r llywodraeth genedlaethol ac i atal al-Qaeda a'r Wladwriaeth Islamaidd rhag cynllunio a chyflawni terfysgaeth yn Affganistan. Cytunodd yr Unol Daleithiau i encilio'u lluoedd yn raddol o Affganistan dros gyfnod o 14 mis, gan ddechrau ym Mawrth 2020. Arwyddwyd y cytundeb hwnnw yn Doha, Qatar.[3]

Cychwynnodd y trafodaethau rhwng y Taliban a llywodraeth Kabul ar 12 Medi 2020, ond erbyn Ebrill 2021, ni chafwyd fawr o gytuno rhwng y Taliban a'r llywodraeth. Serch hynny, datganodd Joe Biden, Arlywydd yr Unol Daleithiau, byddai holl luoedd ei wlad yn encilio o Affganistan erbyn 11 Medi y flwyddyn honno, ugain mlynedd yn union wedi'r ymosodiadau a sbardunodd y goresgyniad.[4] Cynyddodd ymdrechion y Taliban i gipio tir wrth i'r Americanwyr a lluoedd tramor eraill encilio, a lansiwyd yr ymgyrch ymosodol ganddynt ar 1 Mai, wrth i'r cyntaf o'r 2,500 o luoedd Americanaidd a oedd yn weddill yn Affganistan adael y wlad.

Hynt y brwydro golygu

Yn ystod tri mis cyntaf yr ymgyrch, ymledodd lluoedd y Taliban ar draws y wlad gan yrru Byddin Genedlaethol Affganistan ar ffo, yn bennaf yn y de, y gorllewin, a'r gogledd. Cafodd llywodraethau tramor, gan gynnwys gwledydd ISAF, eu syfrdanu gan fuddugoliaeth chwim y Taliban a methiant y lluoedd Affganaidd. Bu morâl ymhlith y milwyr a chydlyniad y lluoedd arfog yn isel iawn o ganlyniad i ddiffyg tâl a lluniaeth, llygredigaeth, ac arweinyddiaeth wael. Yn fynych bu milwyr yn amddiffyn siecbwyntiau a chanolfannau milwrol heb gyflenwadau nac atgyfnerthiadau.[5] Erbyn dechrau Awst 2021, llwyddodd y Taliban i reoli ardaloedd gwledig ar draws Affganistan, gan ynysu'r mwyafrif o ddinasoedd a threfi mawrion. Gwagiwyd Lashkar Gar, prifddinas daleithiol Helmand, wrth iddynt frwydro dros reolaeth y ddinas.[6]

Ar noson 3 Awst, ffrwydrodd fom cerbyd y tu allan i gartref Bismillah Khan Mohammadi, gweinidog amddiffyn Affganistan, yn Kabul a saethwyd ar y tŷ gan ddynion arfog y Taliban. Bu farw wyth o bobl yn yr ymosodiad, a lladdwyd bedwar o'r Taliban gan luoedd arbennig ar ôl brwydr saethu a barodd am dair awr.[7] Tridiau yn ddiweddarach, saethwyd Dawa Khan Menapal, cyfarwyddwr canolfan wybodaeth a chyfryngau'r llywodraeth, yn farw yn y stryd yn Kabul gan y Taliban.[8]

Cwymp y prifddinasoedd taleithiol golygu

Ar 6 Awst cwympodd Zaranj, prifddinas Nimroz yn ne-orllewin Affganistan, i'r Taliban. Hon oedd y brifddinas daleithiol gyntaf i ildio i'r Taliban ers 2016.[9] Gorchfygwyd ail brifddinas daleithiol, Sheberghan yn Jawzjan yng ngogledd y wlad, gan y Taliban ar 7 Awst.[10] Erbyn 12 Awst, llwyddodd y Taliban i gipio 11 o brifddinasoedd taleithiol i gyd, gan gynnwys Herat a Ghazni, mewn llai nag wythnos, a bu bron yr holl o ddeheudir, gogledd, a gorllewin Affganistan yn eu meddiant.[11][12] Cwympodd Lashkar Gar o'r diwedd ar 12 Awst, wedi 13 diwrnod o frwydro.[13] Erbyn canol y mis, bu 26 o'r 34 o brifddinasoedd taleithiol yn eu meddiant, a'u lluoedd ar gyrion Kabul. Yn gynnar yn y bore ar 15 Awst, llwyddodd y Taliban i gipio Jalalabad, un o ddinasoedd mwyaf y wlad, heb frwydr o gwbl, wedi iddynt drafod â hynafgwyr y ddinas.[14]

Cwymp Kabul golygu

Ar 15 Awst, ffoes yr Arlywydd Ashraf Ghani o Affganistan; honnodd un o'i warchodwyr personol iddo hedfan i Tashkent, Wsbecistan, gyda'i wraig, pennaeth ei staff, a'i gynghorwr diogelwch cenedlaethol. Mewn neges ar ei dudalen Facebook, cyfiawnhaodd Ghani ei benderfyniad gan ddweud, "Er mwyn osgoi tywallt gwaed, roeddwn i'n meddwl y byddai'n well imi adael".[15] Cafodd Ghani ei gondemnio gan nifer o'i gydwladwyr, yn eu plith Rahmatullah Nabil, cyn-bennaeth y Gyfarwyddiaeth Diogelwch Genedlaethol.[16] Meddai Abdullah Abdullah, pennaeth yr Uchel Gyngor dros Ailgymodi Cenedlaethol, "fe adawodd e Affganistan ar adeg anodd, boed i Dduw ei ddwyn i gyfrif".[17] Trwy gydol y dydd, rhuthrodd nifer o dramorwyr ac Affganiaid i ffoi Kabul, a rasiodd hofrenyddion yn yr awyr uwchben y brifddinas i gludo diplomyddion a gweithwyr tramor eraill o'r wlad. Gwelwyd mwg yn codi o lysgenhadaeth yr Unol Daleithiau, wrth i'r Americanwyr losgi dogfennau cyn iddynt adael.[18]

Gorchmynnodd arweinwyr y Taliban i'w gwrthryfelwyr oresgyn Kabul, gan honni eu bod am adfer trefn yn y brifddinas yn sgil enciliad y lluoedd diogelwch. O fewn oriau, llwyddodd y Taliban i gipio'r palas arlywyddol, a buont ar fin datgan buddugoliaeth yn eu hymgyrch i orchfygu'r holl wlad.[19] Pan ddaeth y nos, gwasgarodd lluoedd y Taliban ar draws y brifddinas i feddiannu safleoedd yr heddlu. Ar 15 Awst hefyd, cipiodd y Taliban brifddinasoedd taleithiau Maidan Wardak, Khost, Kapisa, a Parwan, yn ogystal â'r brifddinas genedlaethol.[18] Yn ddiweddarach, datganodd y Taliban bod y rhyfel wedi dod i ben a'u bod wedi ailsefydlu Emiriaeth Islamaidd Affganistan.[20][21] Addawodd y Taliban y byddai'r trawsnewid grym yn heddychlon, a bydd cynnig amnest i gyn-aelodau'r llywodraeth ac eraill a wnaeth gydweithio â lluoedd tramor. Serch hynny, bu sôn am lofruddiaethau dialgar gan y Taliban mewn rhannau eraill o'r wlad.[18]

Ymateb rhyngwladol golygu

Unol Daleithiau America a'i cynghreiriaid golygu

 
Yr Arlywydd Biden yn trafod y sefyllfa yn Affganistan ag arweinwyr eraill gwledydd yr G7, ar 24 Awst.

Yn sgil cwymp Kabul, amddiffynnodd yr Arlywydd Biden ei benderfyniad i encilio lluoedd Americanaidd o'r wlad, gan feio buddugoliaeth y Taliban ar fethiant lluoedd arfog Affganistan.[22][23] Cafodd Biden ei feirniadu gan nifer o wleidyddion Americanaidd, am iddo haeru yng Ngorffennaf 2021 y byddai gorchfygiad y wlad gan y Taliban yn "annhebygol i'r eithaf".[24]

Amddiffynnwyd yr enciliad hefyd gan Boris Johnson, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, a fynnai ei fod yn "anghywir i gredu bod yna awydd ymysg unrhyw un o'n partneriaid i barhau â phresenoldeb milwrol neu am ddatrysiad milwrol gan NATO yn Affganistan. Daeth y syniad yna i ben gyda’r ymgyrch yn 2014."[25]

Dadleuodd swyddogion o'r Undeb Ewropeaidd bod anhrefn yr awyrgludiadau yn sgil cwymp Kabul yn nodi bod yn rhaid i'w aelod-wladwriaethau ddatblygu galluoedd milwrol ar y cyd ac yn annibynnol ar luoedd arfog yr Unol Daleithiau er mwyn ymdopi ag argyfyngau rhyngwladol yn y dyfodol.[26] Galwodd Emmanuel Macron, Arlywydd Ffrainc, a Mark Rutte, Prif Weinidog yr Iseldiroedd, ar yr Undeb Ewropeaidd i adeiladu ei "awtonomiaeth strategol".[27]

Y byd Mwslimaidd golygu

Wrth i'r prifddinasoedd taleithiol gwympo i nerth y Taliban, mynegai llywodraeth Pacistan yn gyhoeddus ei syndod at enciliad sydyn yr Americanwyr a chwalfa'r Weriniaeth Islamaidd, gan honni yr oedd o blaid heddwch wedi ei negodi yn hytrach na datrysiad milwrol i'r gwrthdaro. Serch hynny, mae'n debyg i'r elitau yn y lluoedd arfog a gwasanaethau cudd-wybodaeth Pacistanaidd lawenhau oherwydd buddugoliaeth y Taliban, am iddi roi ergyd i rym yr Unol Daleithiau yn y byd Mwslimaidd yn ogystal â pheri trafferth i India, a oedd wedi cyfrannu'n sylweddol at gyflenwadau milwrol ac economaidd y Weriniaeth Islamaidd.[28]

Pwerau rhanbarthol golygu

Cafodd enciliad brysiog yr Unol Daleithiau a'i cynghreiriaid ei ddirmygu gan Weriniaeth Pobl Tsieina. Ar 1 Medi, yn sgil enciliad yr olaf o'r lluoedd Americanaidd, dyfynnodd llefarydd o Weinyddiaeth Faterion Tramor Tsieina ddisgrifiad Mao Tse-tung o Affganistan fel "gwlad arwrol" am iddi beidio ag ildio i luoedd tramor, a galwodd hefyd am ymchwiliad i farwolaethau sifiliaid o ganlyniad i gyrchoedd awyr Americanaidd ers 2001.[29]

Ymatebodd diplomyddion Ffederasiwn Rwsia yn ddigyffro i gwymp Kabul, a chyfarfu'r llysgennad Dmitry Zhirnov â chynrychiolydd o'r Taliban o fewn 48 awr iddynt gipio'r brifddinas. Datganodd Vladimir Putin, Arlywydd Rwsia, bod buddugoliaeth y Taliban yn dangos ei fod yn bryd i lywodraethau'r Gorllewin beidio â'u "polisi diofal o orfodi gwerthoedd tramor" ar wledydd fel Affganistan, a byddai Rwsia yn barod i fagu cysylltiadau cymdogol â'r llywodraeth newydd yn Kabul.[30] Yn ôl y Gweinidog Sergei Lavrov, roedd y Taliban wrthi'n cywiro'u haddewidion i adfer trefn ac i ailgymodi yn sgil y fuddugoliaeth.[31] Meddai Zamir Kabulov, cennad arbennig yr Arlywydd Putin i Affganistan, ei bod yn haws i'r Rwsiaid gyflafareddu â'r Taliban nac â'r hen "lywodraeth byped" dan yr Arlywydd Ghani.[32] Fodd bynnag, pwysleisiodd yr Arlywydd Putin y gallai'r sefyllfa yn Affganistan arwain at dwf terfysgaeth yng Nghanolbarth Asia, gan gynnwys Wsbecistan a Tajicistan sydd yn gynghreiriaid milwrol i Rwsia, a datganodd ei wrthwynebiad i'r syniad o lochesi ffoaduriaid Affganaidd dros dro yn y gwledydd hynny wrth i'r Unol Daleithiau a gwledydd Ewrop brosesu eu teithebau. Pryderodd Putin y gallai ymladdwyr yn Affganistan croesi'r ffin, gan esgus eu bod yn ffoaduriaid, i gyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd yng Nghanolbarth Asia, ac oddi yno i Rwsia heb yr angen am deitheb.[31]

Adladd golygu

Yr awyrgludiadau olaf golygu

Er gwaethaf cwymp Kabul a buddugoliaeth y Taliban ar 15 Awst, caniatawyd i wledydd eraill barhau a'u hawyrgludiadau i allgludo lluoedd, gweithwyr, a sifiliaid tramor, yn ogystal â cheiswyr lloches Affganaidd, o Faes Awyr Rhyngwladol Hamid Karzai yn Kabul. Yn ystod y pythefnos dilynol, cludwyd 120,000 o bobl allan o Affganistan mewn awyrennau a hofrenyddion o Faes Awyr Kabul.[33]

 
Yr Uwchfrigadydd Chris Donaghue, y milwr Americanaidd olaf yn Affganistan, yn esgyn i awyren C-17 Awyrlu'r Unol Daleithiau cyn iddi adael Kabul am 11:59 yr hwyr (Amser Affganistan) ar 30 Awst 2021.[34]

Yn sgil gadawiad yr awyren Americanaidd olaf o Faes Awyr Kabul, yn ystod eiliadau terfynol 30 Awst 2021, cyhoeddwyd "annibyniaeth lawn" Affganistan gan y Taliban, a dathlasant gan danio'u gynnau i'r awyr a chynnau tân gwyllt.[34][35]

Argyfwng ffoaduriaid golygu

Datganodd sawl llywodraeth yn y Gorllewin y byddent yn cynnig lloches i Affganiaid ar ffo o'r Taliban. Cyhoeddodd y Pentagon y bydd awyrgludiadau gan luoedd Americanaidd yn achub o leiaf 22,000 o Affganiaid dan gynllun teithebau arbennig.[36] Rhodd Boris Johnson addewid y bydd hyd at 5,000 o bobl Affganistan yn cael lloches yn y Deyrnas Unedig yn 2021, gyda hyd at 20,000 yn y tymor hir. Ymatebodd Llywodraeth Cymru gan ddweud, "Rydym am i Gymru ddod yn Genedl Noddfa a byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi pobl sy’n gadael Affganistan".[37] Datganodd Angela Merkel, Canghellor yr Almaen, bydd 10,000 o ffoaduriaid yn cael eu derbyn i'r Almaen.[36]

Y gwrthsafiad yn Panjshir golygu

Wedi i'r Arlywydd Ghani ffoi, honnodd y Prif Is-arlywydd Amrullah Saleh ei fod yn arlywydd dros dro y wlad.[38] Ailgynnulliodd Saleh ac ôl-aelodau eraill y Weriniaeth Islamaidd yn Nyffryn Panjshir, cadarnle olaf Byddin Genedlaethol Affganistan, i ogledd-orllewin y brifddinas. Yno, dan enw Ffrynt y Gwrthsafiad Cenedlaethol, maent yn parhau'r frwydr yn erbyn y Taliban er gwaethaf cwymp Kabul.[39] Arweinir y lluoedd gan Ahmed Massoud, mab Ahmad Shah Massoud a fu'n un o brif arweinwyr y mujahideen yn ystod Rhyfel yr Undeb Sofietaidd yn Affganistan. Mae Ffrynt y Gwrthsafiad Cenedlaethol wedi sefydlu mân-amddiffynfeydd, gan gynnwys nythleoedd gynnau peiriannol, mortarau, a gwylfeydd wedi eu clustogi â bagiau tywod, ar hyd y safleoedd strategol uwchben y dyffryn.[40] Credir bod Ahmad Massoud yn bennaeth ar filoedd o ryfelwyr yn y dyffryn, o sawl grŵp ethnig, a'u bod wedi eu trefnu a'u hyfforddi'n effeithlon.[41]

Yn y pythefnos yn sgil cwymp Kabul, bu sawl ysgarmes rhwng Ffrynt y Gwrthsafiad Cenedlaethol a'r Taliban ar ffiniau'r dyffryn, er gwaethaf cyflafareddu rhwng y ddwy ochr. Ceisiai'r Taliban hefyd dorri cysylltiadau cyflenwi i'r dyffryn er mwyn gorfodi'r gwrthsafiad i ildio.[41] Ar 3 Medi, cynyddodd y Taliban eu hymdrech i orchfygu Dyffryn Panjshir, ac honnodd eu bod wedi achosi "colledion trwm" i Ffrynt y Gwrthsafiad Cenedlaethol. Yn ôl llefarydd o'r ochr arall, llwyddodd Ffrynt y Gwrthsafiad Cenedlaethol i ladd 350 o'r Taliban, a chipio rhai ohonynt, wrth amddiffyn y dyffryn ar ddau ffrynt.[42]

Bygythiad IS-K golygu

Yr Arlywydd Biden yn annerch ei wlad yn sgil yr ymsoodiad terfysgol ar Faes Awyr Kabul, ar 26 Awst.
Yr Arlywydd Biden yn derbyn cyrff y lluoedd Americanaidd a laddwyd yn ffrwydrad Maes Awyr Kabul yn ôl i'r Unol Daleithiau, ar 29 Awst.

Wedi iddynt orchfygu Affganistan, wynebai'r Taliban elyn wedi ei atgyfodi, ar ffurf y Wladwriaeth Islamaidd yn Khorasan (IS-K), a fu'n brwydro yn eu herbyn ers 2015.[43] Ar 26 Awst 2021, wrth i'r awyrgludiadau o Kabul i wledydd y Gorllewin barhau, cafodd Maes Awyr Kabul ei daro gan hunan-fomiwr a laddodd tua 180 o bobl. Hawliodd IS-K ei bod yn gyfrifol am y derfysgaeth hon. Ymhlith y meirw oedd 13 o luoedd Americanaidd, y nifer fwyaf o Americanwyr i'w lladd yn y wlad ers 2011. Mewn ymateb, lansiwyd cyrch awyr gan yr Unol Daleithiau yn erbyn tri aelod honedig o IS-K yn Nangarhar ar 27 Awst, gan ladd dau ohonynt. Cafodd y cyrch Americanaidd ei gondemnio gan y Taliban fel "ymosodiad clir ar diriogaeth Affganistan".[44]

Y drefn newydd golygu

Wrth i'r Taliban atgyfnerthu eu grym ar draws Affganistan wedi'r fuddugoliaeth filwrol, ymddengys eu bod am dalu'r pwyth yn ôl i'r rhai a fu'n cydweithio â'r cyn-lywodraeth a lluoedd tramor, er gwaethaf eu haddewidion o ail-gymodi ac amnest. Dienyddiwyd Haji Mullah Achakzai, cyfarwyddwr diogelwch Badghis, a Ghulam Sakhi Akbari, cyfarwyddwr diogelwch Farah, ac honnwyd bod y Taliban yn chwilio am gyn-aelodau eraill o Fyddin Genedlaethol Affganistan a'r heddlu er mwyn eu lladd. Gwadai'r Taliban sawl gwaith nad oeddynt yn gyfrifol am unrhyw lofruddiaethau dialgar.[45] Cyhoeddoedd y Taliban eu bod am adfer nifer o'u hen gyfreithiau, gan gynnwys gwahardd cerddoriaeth a lleisiau merched ar y radio.[46]

Goblygiadau daearwleidyddol golygu

Câi methiant yr Unol Daleithiau yn Affganistan ei ystyried gan nifer o sylwebyddion yn ddigwyddiad pwysig yn hynt y cysylltiadau rhyngwladol a daearwleidyddiaeth ers diwedd y Rhyfel Oer, os nad yn drobwynt oddi ar hegemoni Unol Daleithiau America yn y drefn ryngwladol. Ar 31 Awst 2021, wedi i'r milwr Americanaidd olaf adael Affganistan, anerchodd yr Arlywydd Biden ei wlad o'r Tŷ Gwyn gan ddatgan:

Wrth i ni droi'r dudalen ar y polisi tramor sydd wedi llywio ein cenedl yn y ddau ddegawd diwethaf mae'n rhaid i ni ddysgu o'n camgymeriadau. I mi, mae dau sydd o'r pwys mwyaf. Yn gyntaf. byddwn yn llunio ymgyrchoedd gyda nodau clir, cyraeddadwy, nid rhai na fyddwn ni byth yn eu cyrraedd. Ac, yn ail, byddwn yn parhau i ganolbwyntio'n glir ar fuddiant diogelwch cenedlaethol sylfaenol Unol Daleithiau America.[47]

Ychwanegodd Biden fod ei benderfyniad i encilio o Affganistan yn nodi "diwedd oes yr ymgyrchoedd milwrol mawr i ail-wneud gwledydd eraill".[47] Ar unwaith, rhoddwyd yr enw Athrawiaeth Biden ar yr athrawiaeth polisi tramor arfaethedig hon,[48][49][50] sydd yn awgrymu gwyriad oddi wrth barodrwydd yr Unol Daleithiau i ymyrryd yn filwrol mewn gwledydd eraill ar draws y byd, yr arfer honno a fu'n sicrhau statws uwchbwer yr Unol Daleithiau ers yr Ail Ryfel Byd.[51] Cafodd yr araith ei chroesawu gan gefnogwyr Biden fel mynegiad eglur o bolisi diogelwch cenedlaethol newydd yr Unol Daleithiau, a fyddai'n symud adnoddau'r llywodraeth a'r lluoedd arfog i ffwrdd o'r ymdrechion ofer i ymyrryd yn y Dwyrain Canol a Chanolbarth Asia yn yr ugain mlynedd ddiwethaf, a thuag at wynebu'r her gan bwerau mawrion megis Tsieina a Rwsia, a mynd i'r afael â materion rhyngwladol eraill gan gynnwys newid hinsawdd. Cafodd yr araith ymateb oeraidd gan sylwebwyr eraill yn y Gorllewin, a dybiodd y byddai polisi cwtogi Biden o ran materion tramor yn hebrwng cyfnod mwy peryglus i mewn i'r Unol Daleithiau a'i cynghreiriaid, gan roi hwb i elynion a chystadleuwyr y wlad ac yn tanseilio ymdrechion i hyrwyddo hawliau dynol a democratiaeth ar draws y byd.[52]

Disgwylir y byddai Gweriniaeth Pobl Tsieina yn manteisio ar enciliad yr Unol Daleithiau i ddylanwadu ar Affganistan ac ehangu ei maes dylanwad yn Asia.[53] Datganodd y Taliban taw Tsieina yw "brif bartner" Affganistan yn y gymuned ryngwladol, a bod llywodraeth Beijing yn barod i fuddsoddi mewn adluniad y wlad. Meddai Zabihullah Mujahid, llefarydd y Taliban: "Mae gennym barch mawr at y prosiect Un Gwregys Un Ffordd a fydd yn fodd i adfywio hen Ffordd y Sidan."[54]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) "Mapping the advance of the Taliban in Afghanistan", BBC (Gorffennaf 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Awst 2021.
  2. (Saesneg) "The Latest: Officials: US envoy Khalilzad returns to Qatar", Associated Press (5 Medi 2019). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar Medi 2021.
  3. Jennifer Hansler, "US and Taliban sign historic agreement", CNN (29 Chwefror 2020). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2021.
  4. (Saesneg) Terri Moon Cronk, "Biden Announces Full U.S. Troop Withdrawal From Afghanistan by Sept. 11", Adran Amddiffyn yr Unol Daleithiau (14 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2021.
  5. (Saesneg) Ben Farmer, "Why the 300,000-strong Afghan army is collapsing so swiftly against Taliban", The Daily Telegraph (13 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 22 Awst 2021.
  6. (Saesneg) Ben Farmer, "Al Qaeda 'flocking to Taliban offensive'", The Daily Telegraph (3 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2021.
  7. (Saesneg) "Gunmen attack home of Afghan defence minister in Kabul", BBC (4 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Awst 2021.
  8. (Saesneg) "Afghanistan: Dawa Khan Menapal assassinated in Kabul", BBC (6 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Awst 2021.
  9. (Saesneg) "Afghanistan war: Taliban capture regional capital Zaranj", BBC (6 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 6 Awst 2021.
  10. (Saesneg) "Afghanistan war: Sheberghan falls to Taliban, militants say", BBC (7 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 7 Awst 2021.
  11. (Saesneg) "Afghanistan: Taliban take 11th provincial capital as Ghazni and Herat fall", BBC (12 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Awst 2021.
  12. (Saesneg) Ben Farmer, "Taliban take two more cities as Afghan forces collapse in face of offensive blitz", The Daily Telegraph (12 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 12 Awst 2021.
  13. (Saesneg) "Afghanistan: Fifteen years of security that British soldiers helped to build in Lashkar Gar has gone in 13 days", Sky News (14 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2021.
  14. (Saesneg) "Taliban seizes Afghanistan’s Jalalabad, cuts off Kabul from east", Al Jazeera (15 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2021.
  15. (Saesneg) "Afghan president says he left country to avoid bloodshed", Reuters (15 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2021.
  16. (Saesneg) Ali M. Latifi, "‘Unpatriotic’: Afghans slam President Ghani’s swift departure", Al Jazeera (15 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2021.
  17. "Arlywydd Affganistan wedi ffoi", Golwg360 (15 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2021.
  18. 18.0 18.1 18.2 (Saesneg) "Afghan President Ghani flees country as Taliban enters Kabul", Al Jazeera (15 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2021.
  19. (Saesneg) "Afghanistan conflict: Taliban push into Kabul as president flees", BBC (15 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 15 Awst 2021.
  20. (Saesneg) Zaheena Rasheed a Tamila Varshalomidze, "Taliban says Afghanistan war over as president flees", Al Jazeera (16 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2021.
  21. (Saesneg) Jake Lahut, "Taliban will declare the Islamic Emirate of Afghanistan in resounding defeat of the US-backed government", Business Insider (15 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 16 Awst 2021.
  22. (Saesneg) Michael D. Shear a David E. Sanger, "Biden stands behind Afghan withdrawal, despite ‘hard and messy’ final days., The New York Times (17 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Awst 2021.
  23. (Saesneg) Christina Wilkie ac Amanda Macias, "Afghanistan collapse: Biden says Afghanistan war was a lost cause, vows to continue aid and diplomacy", CNBC (16 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Awst 2021.
  24. (Saesneg) Rozina Sabur a Josie Ensor, "Joe Biden isolated and under fire as Afghanistan falls to Taliban", The Daily Telegraph (16 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Awst 2021.
  25. "Boris Johnson yn wfftio’r syniad y gallai’r Deyrnas Unedig fod wedi atal Affganistan rhag disgyn i ddwylo’r Taliban", Golwg360 (18 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Awst 2021.
  26. (Saesneg) "Borrell: EU should prepare for the next crises – Iraq, Sahel", Euractiv (23 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2021.
  27. (Saesneg) Sam Fleming, Henry Foy a Victor Mallet, "Afghanistan pullout deepens EU concern over lack of military power", Financial Times (2 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2021.
  28. (Saesneg) "Afghanistan’s neighbours are preparing for life with the Taliban", The Economist (14 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Awst 2021.
  29. (Saesneg) Sutirtho Patranobis, "‘Heroic’ Afghanistan has turned a new page: China", Hindustan Times (1 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2021.
  30. (Saesneg) Anton Troianovski, "Putin Takes Shot at West, but Says He’ll Work to ‘Normalize’ Afghanistan", The New York Times (20 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Awst 2021.
  31. 31.0 31.1 (Saesneg) "Putin: we don't want Afghan militants in Russia", Reuters (22 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Awst 2021.
  32. (Saesneg) "Afghan crisis: Russia plans for new era with Taliban rule", BBC (21 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Awst 2021.
  33. (Saesneg) Nicole Gaouette, Jennifer Hansler, Barbara Starr ac Oren Liebermann, "The last US military planes have left Afghanistan, marking the end of the United States' longest war", CNN (31 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Medi 2021.
  34. 34.0 34.1 (Saesneg) Ben Doherty, "Last man out: the haunting image of America’s final moments in Afghanistan", The Guardian (31 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Medi 2021.
  35. (Saesneg) Nick Allen a Jamie Johnson, "Last US soldier leaves Afghanistan as America ends 20-year war", The Daily Telegraph (31 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Medi 2021.
  36. 36.0 36.1 (Saesneg) "A refugee crisis looms after the Taliban take power in Afghanistan", The Economist (17 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Awst 2021.
  37. "20,000 o ffoaduriaid Affganistan i gael lloches yn y Deyrnas Unedig", Golwg360 (18 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Awst 2021.
  38. (Saesneg) "Afghan vice president says he is "caretaker" president", Reuters (17 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 18 Awst 2021.
  39. (Saesneg) "Panjshir flies flag of resistance again; Amrullah says he is President of Afghanistan", The Tribune (17 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 19 Awst 2021.
  40. (Saesneg) Campbell MacDiarmid, "What chance does the National Resistance Front of Afghanistan have against the Taliban?", The Daily Telegraph (24 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 24 Awst 2021.
  41. 41.0 41.1 (Saesneg) "Panjshir - the valley trying to hold off the Taliban", BBC (2 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Medi 2021.
  42. (Saesneg) "Afghanistan Panjshir: Fighting intensifies over holdout Afghan valley", BBC (3 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 3 Medi 2021.
  43. (Saesneg) Frank Gardner, "Afghanistan airport attack: Who are IS-K?", BBC (27 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Awst 2021.
  44. (Saesneg) "Biden promises more strikes against ISIL-affiliate in Afghanistan", Al Jazeera (28 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 28 Awst 2021.
  45. (Saesneg) Yogita Limaye, "Amid violent reprisals, Afghans fear the Taliban's 'amnesty' was empty", BBC (31 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Medi 2021.
  46. (Saesneg) Roland Oliphant, Ben Farmer a Charles Hymas, "Taliban hunting down and killing former members of Afghan army", The Daily Telegraph (31 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Medi 2021.
  47. 47.0 47.1 (Saesneg) Nick Allen, "Joe Biden: US no longer the world’s policeman", The Daily Telegraph (1 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Medi 2021. Dyfyniad gwreiddiol: "As we turn the page on the foreign policy that has guided our nation for the last two decades we have got to learn from our mistakes. To me, there are two that are paramount. First, we set missions with clear, achievable goals, not ones we will never reach. And, second, we will stay clearly focused on the fundamental national security interest of the United States of America."
  48. (Saesneg) William Kristol, "The Birth of the Biden Doctrine?", The Bulwark (1 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2021.
  49. (Saesneg) Stephen Bush, "Why “the Biden doctrine” on foreign policy is here to stay", New Statesman (1 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2021.
  50. (Saesneg) Daniel Johnson, "The Biden Doctrine", The Article (1 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol ar 4 Medi 2021.
  51. (Saesneg) Eric Garcia, "President attempts to articulate his ‘Biden doctrine’ as the Afghanistan war draws to a close", The Independent (31 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Medi 2021.
  52. (Saesneg) James Politi, "The Biden doctrine: the US hunts for a new place in the world", Financial Times (3 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2021.
  53. (Saesneg) Charlie Campbell, "China Sees Opportunity After America's Withdrawal from Afghanistan. But Can Beijing Do Any Better?", TIME (30 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2021.
  54. (Saesneg) Lucy Fisher a Nick Squires, "Taliban declare China their closest ally", The Daily Telegraph (2 Medi 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 4 Medi 2021.