Hiort
ynys Allanol Heledd
Yr ynys fwyaf o'r ynysoedd sy'n ffurfio Sant Kilda yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Hiort (Saesneg: Hirta). Weithiau, defnyddir yr enw am yr ynysoedd i gyd.
Math | ynys |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Sant Kilda |
Sir | Ynysoedd Allanol Heledd |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 6.7 km² |
Uwch y môr | 430 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd |
Cyfesurynnau | 57.81483°N 8.58083°W |
Rheolir gan | Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban |
Perchnogaeth | Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban |
Mae Hiort yn 4 km o led o'r gorllewin i'r dwyrain, ac mae ei chlogwyni mor serth fel mae diim ond o un bae, Bagh a' Bhaile, y gellir glanio yno. Yma roedd yr hen bentref, Am Baile.
Roedd pobl yn byw yma hyd 1930; yn awr mae gwersyll yn perthyn i'r fyddin arni. Mae'r ynys yn eiddo i Ymddiriedolaeth Genedlaethol yr Alban.