Hirnantau

cadwyn o fynyddoedd ym Mhowys

Defnyddir y term Hirnantau, yn bennaf gan fynyddwyr, ar gyfer y bryniau sy'n ymestyn rhwng Llyn Tegid yn y gogledd-orllewin a Llyn Efyrnwy yn y de. Mae'r ffîn rhwng Gwynedd a Powys yn arwain trwy'r Hirnantau.

Daw'r enw o Gwm Hirnant, sy'n arwain trwy ganol y bryniau. Fe'u hystyrir fel rheol yn rhan o fynyddoedd y Berwyn, er fod y ffordd B4391 yn eu gwahanu oddi wrth brif grib y Berwyn, ymhellach i'r dwyrain.

Y prif gopaon yw: