Ci hela sy'n tarddu o Japan ac sy'n edrych yn debyg i sbits yw'r Hokkaido. Dywed iddo ddisgyn o gŵn canolig eu maint a ddaeth i Hokkaido yn sgil datblygiad cysylltiadau rhwng yr ynys honno a Tohoku (gogledd Honshu) yn ystod oes Kamakura (12g). Defnyddiodd yr Ainu, brodorion Hokkaido, y brîd hwn i hela eirth ac anifeiliaid eraill. Datblygodd yn gi cryf a chydnerth er mwyn ymdopi â'r oer a'r eira trwm ym mynyddoedd Hokkaido.[1]

Hokkaido
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
MathJapanese dog Edit this on Wikidata
GwladJapan Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Hokkaido

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Hokkaido (Federation Cynologique Internationale). Adalwyd ar 6 Medi 2016.
  Eginyn erthygl sydd uchod am gi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.