Honshū
(Ailgyfeiriad o Honshu)
Honshū (本州) yw'r fwyaf o ynysoedd Japan, gydag arwynebedd o tua 230,500 km²; 60% o holl arwynebedd Japan; mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Mae'r ynys yn 1300 km o hyd a rhwng 50 a 240 km o led, gyda 5450 km o arfordir. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 98,023,000.
Math | island of Japan |
---|---|
Poblogaeth | 104,000,000 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Japanese archipelago, four main islands of Japan |
Gwlad | Japan |
Arwynebedd | 227,939.66 ±0.01 km² |
Gerllaw | Môr Japan, Y Cefnfor Tawel, Seto Inland Sea |
Cyfesurynnau | 36°N 138°E |
Hyd | 1,300 cilometr |
Saif Honshū i'r de o Hokkaido, gyda Chulfor Tsugaru yn eu gwahanu. I'r de o Honshū mae ynys Shikoku, ac i'r de-orllewin mae Kyushu. Mae'n ynys fynyddig, a cheir daeargrynfeydd yn aml. Y copa uchaf yw Mynydd Fuji (3776 medr). Y ddinas fwyaf yw Tokyo, ac mae ardal ddinesig Tokyo Fwyaf yn cynnwys 25% o'r boblogaeth. Ymhlith y dinasoedd eraill mae Kyoto, Osaka, Kobe, Hiroshima a Nagoya.