Hollt wrth waelod y cnwc Gwener (mons veneris) lle mae'n ymrannu i ffurfio'r gweflau mwyaf (labia majora) yw hollt Gwener (Lladin rima pudendi, rima vulvae). Yn achos rhai merched, mae cwfl y clitoris a'r gweflau lleiaf (labia minora) yn gwthio trwy hollt Gwener, ond dim ym mhob achos. Enwir yr hollt ar ôl Gwener, duwies serch y Rhufeiniaid.

Hollt Gwener, yn union o dan y cnwc Gwener
Ar lafar clywir y cyfuniad ‘troed camel’ (Saesneg cameltoe) am hollt Gwener.

Mae amlygrwydd yr hollt yn amrywio. Weithiau mae'r cedor yn ei orchuddio yn gyfangwbl ac mae'n amlycaf mewn oedolion benywaidd pan fo'r blew piwbig wedi'i siafio, ffasiwn sydd wedi dod yn fwy poblogaidd yn y Gorllewin ac sy'n arferol mewn rhai diwylliannau, e.e. yn achos gwledydd Islamaidd.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am anatomeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.