Anatomeg (o'r Groeg ἀνατομία (anatomia) sef 'gwahanu a thorri i fyny') yw astudiaeth, adeiladwaith a threfniant organebau byw. Astudiaeth anatomeg anifeiliaid yw sŵtomeg, ac astudiaeth anatomeg planhigion yw ffytonomeg.

Anatomeg
Enghraifft o'r canlynolcangen o fywydeg Edit this on Wikidata
Mathbywydeg Edit this on Wikidata
Y gwrthwynebpseudoanatomy Edit this on Wikidata
Rhan obywydeg, meddygaeth Edit this on Wikidata
Yn cynnwysSwtomeg, anatomeg planhigion, esgyrneg, Neuroanatomi Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Anatomeg

Canghennau pwysicaf anatomeg ydy anatomeg gymharol ac anatomeg ddynol. Mae'r gair anatomi fodd bynnag yn cyfeirio at rannau o'r corff dynol yn hytrach na'r pwnc.

Anatomeg ddynol golygu

 
Y galon a'r ysgyfaint, allan o hen rifyn o'r clasur meddygol Gray's Anatomy.

Yr astudiaeth wyddonol o sut mae'r corff dynol yn gweithio ydy anatomeg ddynol (hefyd 'anatomi dynol'). Mae dwy ran i'r asudiaeth hon:

Dros y blynyddoedd mae anatomeg wedi datblygu drwy disectio, cofnodi a llunio cronfa o wybodaeth am yr organau. Defnyddiwyd a defnyddir heddiw hefyd gyrff anifeiliaid a chyrff marw dynol i ychwanegu at y wybodaeth hon. Ni ddylid, fodd bynnag, gymysgu anatomeg gyda anatomeg patholegol neu histopatholeg sef asudio meinweoedd microscopic organau wedi'u heintio.

Anatomeg wyneb y corff golygu

Ar wyneb y corff ceir nifer o wrthrychau hawdd eu hadnabod, fel cerrig milltir ar draws y corff cyfan. Mae lawfeddygon a milfeddygon yn defnyddio'r wybodaeth hon o wyneb y corff fel canllaw pwysig i wybod beth sydd o dan y croen.

Anatomeg gymharol golygu

Cymharu'r gwahanol strwythurau o fewn gwahanol anifeiliaid y mae anatomeg gymharol. Roedd Syr Richard Owen (1804 - 1892), sefydlydd yr Amgueddfa Brydeinig yn un o brif arbenigwyr Ewrop ar y pwnc.

Anatomegau eraill golygu

Cymharu gwahanol genedligrwydd a hil bodau dynol y mae Anatomeg anthropolegol.

Astudiaeth artistig o'r anatomi (dynol ac anifail) ydyw Anatomeg artistig.

Hanes anatomeg golygu

O'r Groeg y tardd y gair 'anatomeg' neu 'anatomi': ἀνατομή anatomē "dyrannu" (Saesneg: dissection) (o ἀνατέμνω anatémnō "torri fyny" a ddaw o'r gair ἀνά aná "fyny", a τέμνω témnō "torri"),[1]. Yn yr 2g y mwyaf nodedig, a thad anatomeg, efallai, yw rhannodd Claudius Galenus, a enwir yn ddiweddar yn 'Galen') [2] neu 'Galen o Bergamon', Twrci heddiw. Rhannodd y corff dynol yn sawl maes gan gynnwys anatomeg, ffisioleg, patholeg, fferylliaeth a niwroleg - yn ogystal ag athroniaeth a rhesymeg. Anifeiliaid a ddyranwyd gan mwyaf yn y cyfnod hwn.[3]

Ystyrir y De Humani Corporis Fabrica, llyfr yn yr iaith Ladin am ffisioleg gan Andreas Vesalius (1543) yn garreg filltir bwysig yn hanes anatomeg. Rhennir y gyfrol yn saith 'llyfr':

Yn Alexandria yr Henfyd y gwnaed y gwaith o gofnodi'r corff fwyaf trylwyr, gyda Herophilus ac Erasistratus (3g) yn gynhyrchiol iawn. Dyma'r ddau a ddechreuodd ddyranu'r corff er mwyn ei astudio'n wyddonol; Erasistratus a Praxagoras a sylweddolodd fod gwahaniaeth rhwng gwythienau (veins)a'r Rhydweliau (arteries).

Cyfeiriadau golygu

  1. O.D.E. Ail rifyn 2005
  2. "Galen" - Collins English Dictionary, HarperCollins Publishers, 1998.
  3. Brock, Arthur John (translator) Galen. On the Natural Faculties. Caeredin, 1916. Cyflwyniad, tt xxxiii.
Chwiliwch am anatomeg
yn Wiciadur.