Hollywood
Ardal yn Los Angeles, Califfornia yw Hollywood, sydd wedi ei leoli i'r gogledd-orllewin o ganol y dref.[1] Oherwydd ei enwogrwydd fel canolfan hanesyddol stiwdios a serennau ffilm, defnyddir y gair "Hollywood" yn aml i gynrychioli sinema yn yr Unol Daleithiau. Erbyn heddiw mae'r diwydiant wedi gwasgaru i ardaloedd cyfagos gan gynnwys Burbank a Los Angeles Westside[2] ond mae nifer o ddiwydiannau eraill megis golygu, effeithiau props, ôl-gynhyrchu a goleuo yn dal wedi eu lleoli yn Hollywood.
Math | cymdogaeth |
---|---|
Poblogaeth | 210,511 |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Cefnfor Tawel |
Daearyddiaeth | |
Sir | Los Angeles |
Gwlad | UDA |
Arwynebedd | 79.5 km² |
Uwch y môr | 108 metr |
Yn ffinio gyda | Los Feliz, Hollywood Hills |
Cyfesurynnau | 34.0983°N 118.3267°W |
Cod post | 90027, 90028, 90029, 90038, 90046, 90068 |
- Am ragor o wybodaeth am ddiwydiant ffilm yr Unol Daleithiau gweler Sinema yn yr Unol Daleithiau. Gweler hefyd Hollywood (gwahaniaethu).