Ffilm yn yr Unol Daleithiau

Mae ffilm yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn ddylanwadol iawn ar ffilm ledled y byd ers dechrau'r 20g. Weithiau, rhennir hanes sinema yn yr Unol Daleithiau i bedwar prif gategori: cyfnod y ffilmiau mud, sinema glasurol Hollywood, Hollywood Newydd a'r cyfnod cyfoes (ar ôl 1980).

Ym 1878, dangosodd Eadweard Muybridge bŵer ffotograffiaeth i ddal symudiad. Ym 1894 cafwyd yr arddangosfa lluniau symudol cyntaf y byd yn Ninas Efrog Newydd, gan ddefnyddio Kinetoscope Thomas Edison. Y flwyddyn ganlynol, gwelwyd y ffilm gyntaf yn cael ei thaflunio yn Efrog Newydd ac roedd yr Unol Daleithiau ar flaen y gâd yn natblygiad ffilmiau sain yn y degawdau a ddilynodd. Ers dechrau'r 20g, lleolir y diwydiant ffilmiau yn yr Unol Daleithiau o amgylch Hollywood, Califfornia. Roedd y cyfarwyddwr D. W. Griffith yn ganolog i ddatblygiad ffilmiau ac yn aml, ystyrir ffilm Orson Welles Citizen Kane fel un o'r ffilmiau gorau erioed. Daeth actorion Americanaidd megis John Wayne a Marilyn Monroe yn ffigurau eiconig, tra bod y dyfeisiwr a chynhyrchydd Walt Disney yn arweinydd ym myd ffilmiau wedi'u hanimeiddio a gwerthu nwyddau a oedd yn gysylltiedig â ffilmiau. Stiwdios ffilmiau mawrion Hollywood yw canolbwynt ffilmiau llwyddiannus y byd megis Star Wars (1977) a Titanic (1997) ac mae'r ffilmiau a wneir yn Hollywood yn dominyddu'r diwydiant ffilmiau byd eang.