Homer Simpson
Prif gymeriad ffuglennol sydd yn dad y teulu Simpson yn y gyfres deledu animeiddiedig The Simpsons yw Homer Jay Simpson. Fe leisir gan Dan Castellaneta ac ymddangosodd ar deledu yn gyntaf, ynghŷd â gweddill ei deulu, yn y cartŵn byr "Good Night" ar The Tracey Ullman Show ar 19 Ebrill, 1987. Crewyd a dyluniwyd Homer gan y cartwnydd Americanaidd Matt Groening tra roedd yn aros yng nghyntedd swyddfa James L. Brooks. Cafodd Groening ei alw i gynnig cyfres o gartwnau byrion yn seiliedig ar ei strip comig Life in Hell ond penderfynodd i greu grŵp newydd o gymeriadau. Enwodd y cymeriad ar ôl ei dad Homer Groening. Wedi iddynt ymddangos ar The Tracey Ullman Show am dair mlynedd, ymddangosodd y teulu Simpson ar gyfres eu hunain ar Fox ar 17 Rhagfyr, 1989. Bellach mae The Simpsons yn parhau i gael ei gynhyrchu a'i ddarlledu ar deledu mewn nifer fawr o wledydd.
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol ffuglennol, animated television character, animated film character |
---|---|
Crëwr | Matt Groening |
Màs | 240 pwys |
Rhan o | Homer and Marge Simpson |
Aelod o'r canlynol | United States Navy Reserve, Byddin yr Unol Daleithiau |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tad anfoesgar a digywilydd y teulu Simpson yw Homer. Mae ganddo fe a'i wraig Marge tri o blant: Bart, Lisa a Maggie. Fel enillwr cyflog y teulu mae'n gweithio yn Atomfa Springfield. Ymgorffora Homer nifer o ystrydebau dosbarth gweithiol Americanaidd: mae'n amrwd, gordew, analluog, lletchwith, a diog; ond mae hefyd yn hynod o ymroddedig i'w deulu. Er gwaethaf trefn reolaidd ei fywyd coler las maestrefol, mae Homer wedi cael nifer o brofiadau rhyfeddol.
Yn y cartwnau byrion a phenodau cynnar, lleisiodd Castellaneta Homer fel dynwarediad bras o Walter Matthau; ond yn ystod ail a thrydydd dymhorau'r rhaglen hanner-awr datblygodd llais Homer yn fwy cadarn er mwyn galluogi mynegiant eangach o emosiynau. Ymddangosa Homer mewn cyfryngau eraill sy'n gysylltiedig â The Simpsons – yn cynnwys gemau fideo, Y Simpsons Ffilm, The Simpsons Ride, hysbysebion a llyfrau comig – ac mae wedi sbarduno llinell o farsiandïaeth. Cynhwysir ei ymadrodd cyffredin, y rhoch drallodus "d'oh!", yng Ngeiriadur Saesneg Newydd Rhydychen ers 1998 a Geiriadur Saesneg Rhydychen ers 2001.
Homer yw un o'r cymeriadau ffuglennol mwyaf dylanwadol ar deledu: disgrifiwyd gan The Sunday Times fel "cread comig gorau yr oes [fodern]". Enwyd fel yr ail gymeriad cartŵn gorau gan TV Guide a chafodd ei ethol fel y cymeriad teledu gorau erioed gan wylwyr Channel 4. Enillodd Castellaneta dair Wobr Emmy am Berfformiad Lleisiol Ardderchog a Gwobr Annie arbennig am leisio Homer. Yn 2000, cafodd Homer, ynghŷd â gweddill ei deulu, ei wobrwyo gyda seren ar y Hollywood Walk of Fame.