Oxford English Dictionary
Prif eiriadur yr iaith Saesneg yw'r Oxford English Dictionary neu OED (Geiriadur Saesneg Rhydychen), a gyhoeddir gan Oxford University Press (Gwasg Prifysgol Rhydychen). Cyhoeddwyd dau argraffiad rhwymedig yr OED dan ei enw presennol ym 1928 a 1989. Cyhoeddwyd yr argraff gyntaf mewn 12 cyfrol (ag atodiadau diweddarach), a'r ail argraff mewn 20 cyfrol. Hyd at Fawrth 2011, roedd y golygyddion wedi cyflawni'r trydydd argraff o M i Ryvita. Gyda thua 600,000 o eiriau, y geiriadur swyddogol hwyaf yw'r OED, yn ôl The Guinness Book of World Records.
Enghraifft o'r canlynol | online dictionary, dictionary of the English language, historical dictionary |
---|---|
Awdur | John Simpson, Edmund Weiner, James Murray |
Cyhoeddwr | Gwasg Prifysgol Rhydychen |
Gwlad | y Deyrnas Unedig |
Iaith | Saesneg |
Genre | dictionary of the English language |
Lleoliad cyhoeddi | Rhydychen |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.oed.com |