Homolysis (cemeg)
Yng nghemeg, mae homolysis (o'r groeg όμοιος, homo, "hafal," and λύσις, lusis, "llacio") neu ymholltiad homolytig yn ymholltiad bond cemegol gan gynhyrchu dau radical rhydd. Mae'r ddau electron a oedd yn y bond cofalent yn rhannu'n hafal rhwng y ddau atom. Mae'r electronnau yma yn electronnau di-bar, dangosir hyn gan symbol y dot yn yr esiampl isod.
Mae arbelydriad uwch fioled yn gallu achosi hyn i ddigwydd.
Gelwir yr egni sy'n ymglymedig i'r broses ymhollti yma yn Egni daduniad bond. Mae yna hefyd broses ymhollti bondiau o'r enw heterolysis.