Horatio Nelson
gwleidydd, swyddog yn y llynges (1758-1805)
Llynghesydd Prydeinig oedd Horatio Nelson, Feicownt 1af Nelson (29 Medi 1758 – 21 Hydref 1805).
Horatio Nelson | |
---|---|
Ganwyd | 29 Medi 1758 Burnham Thorpe |
Bu farw | 21 Hydref 1805 Cape Trafalgar |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | swyddog yn y llynges, gwleidydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Tad | Edmund Nelson |
Mam | Catherine Suckling |
Priod | Frances Herbert Woolward |
Partner | Emma Hamilton |
Plant | Horatia Nelson |
Gwobr/au | Marchog Cadlywydd Urdd y Baddon, Order of the Crescent, Knight Grand Cross of the Order of Saint Ferdinand and of Merit, Chelengk, Knight Grand Cross of the Order of Saint Joachim |
llofnod | |
Ganed ef yn Burnham Thorpe, Norfolk, Lloegr, y chweched o unarddeg o blant y Parchedig Edmund Nelson a'i wraig Catherine. Ymunodd a'r llynges yn deuddeg oed, a daeth i amlygrwydd yn fuan. Mae'n fwyaf enwog oherwydd ei fuddugoliaeth dros lynges Ffrainc ym Mrwydr Trafalgar yn 1805, ond saethwyd ef yn ystod y frwydr a bu farw'n fuan wedyn.