Tref ar arfordir sir seremonïol Dwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, ydy Hove,[1] sydd ynghyd a'i Brighton yn ffurfio Dinas Brighton a Hove.

Hove
Mathtref, ardal ddi-blwyf Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolDinas Brighton a Hove
Poblogaeth91,900 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDwyrain Sussex
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau50.8311°N 0.1725°W Edit this on Wikidata
Cod OSTQ285055 Edit this on Wikidata
Cod postBN3 Edit this on Wikidata
Map

Yn wreiddiol roedd Hove yn bentref pysgota bach wedi'i amgylchynu gan dir amaethyddol agored. Tyfodd yn gyflym yn y 19g fel ymateb i ddatblygiad Brighton, ei gymydog dwyreiniol, fel cyrchfan glan môr, ac erbyn oes Fictoria roedd yn dref ddatblygedig lawn gyda statws bwrdeistref. Atodwyd plwyfi cyfagos fel Aldrington a Hangleton ar ddiwedd y 19g a dechrau'r 20g. Ym 1997, fel rhan o ddiwygio llywodraeth leol, unodd y fwrdeistref â Brighton i ffurfio Bwrdeistref Brighton a Hove, a rhoddwyd statws dinas i'r awdurdod unedol hwn yn 2001.

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 10 Mehefin 2020