Newhaven, Dwyrain Sussex
Tref, porthladd a phlwyf sifil yn Nwyrain Sussex, De-ddwyrain Lloegr, ydy Newhaven.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Lewes.
Math | tref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Ardal Lewes |
Poblogaeth | 12,691 |
Gefeilldref/i | La Chapelle-Saint-Mesmin |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dwyrain Sussex (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 7.12 km² |
Cyfesurynnau | 50.8°N 0.06°E |
Cod SYG | E04003778 |
Cod OS | TQ449016 |
Cod post | BN9 |
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 12,232.[2]
Saif Newhaven wrth aber Afon Ouse, mewn dyffryn sydd wedi'i dorri trwy'r Twyni Deheuol. Dros y canrifoedd mae'r aber wedi symud rhwng Newhaven a Seaford o ganlyniad i dwf ac erydiad tafod graean ar hyd yr arfordir. Torrwyd sianel trwy'r tafod hwn yng nghanol y 16g, gan greu harbwr cysgodol, yn well na'r un yn Seaford. Yr "hafan newydd" oedd yr harbwr hwn, felly yr enw "Newhaven" (yn wreiddiol "New Haven").[3]
Mae gwasanaeth fferi yn gweithredu o borthladd Newhaven ar draws y Môr Udd i Dieppe yng ngogledd Ffrainc.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ British Place Names; adalwyd 11 Mehefin 2020
- ↑ City Population; adalwyd 11 Mehefin 2020
- ↑ "Historic Newhaven", Gwefan Cyngor Tref Newhaven; adalwyd 13 Mehefin 2020
Dinas
Brighton a Hove
Trefi
Battle ·
Bexhill-on-Sea ·
Brighton ·
Crowborough ·
Eastbourne ·
Hailsham ·
Hastings ·
Heathfield ·
Hove ·
Lewes ·
Newhaven ·
Peacehaven ·
Polegate ·
Rye ·
Seaford ·
Telscombe ·
Uckfield ·
Wadhurst ·
Winchelsea