How Do You Solve A Problem Like Maria?

Roedd How Do You Solve a Problem Like Maria? yn rhaglen dalentau Prydeinig a enillodd nifer o wobrau. Cafodd y rhaglen ei darlledu am y tro cyntaf ar nosweithiau Sadwrn ar BBC 1 ar 29 Gorffennaf 2006 tan 16 Medi 2006. Roedd y rhaglen yn chwilio am berfformwraig sioe gerdd i chwarae rhan Maria von Trapp yng nghynhyrchiad llwyfan 2006 Andrew Lloyd Webber a David Ian o The Sound of Music. Cyflwynwyd yu rhaglen gan Graham Norton. Daw enw'r rhaglen deledu o linell yn un o ganeuon y cynhyrchiad "Maria". Yn y pen draw, dewiswyd Connie Fisher, merch 23 oed, i chwarae rhan Maria; fodd bynnag yn hwyrach gofynnodd Andrew Lloyd Webber i Aoife Mulholland i chwarae rhan Maria yn y sioeau matinee ar ddydd Llun a Mercher, ar ôl i Connie fynd yn sal. Fe'i cynghorwyd i leihau ei baich gwaith i 6 sioe yr wythnos.

How Do You Solve A Problem Like Maria?

Teitl sgreen
How Do You Solve A Problem Like Maria?
Crëwyd gan Andrew Lloyd Webber
Cyflwynwyd gan Graham Norton
Gwlad/gwladwriaeth Y Deyrnas Unedig
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 1
Nifer penodau 8
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 30-90 muned
Darllediad
Sianel wreiddiol BBC
Fformat llun PAL (576i), 16:9
Darllediad gwreiddiol 29 Gorffennaf 200616 Medi 2006
Cronoleg
Olynydd Any Dream Will Do
Dolenni allanol
Gwefan swyddogol
Proffil IMDb

How Do You Solve a Problem Like Maria? oedd y rhagflaenydd i gyfres o sioeau talent a gynhyrchwyd gan Lloyd Webber a'r BBC ar gyfer y West End. Enw'r ail gyfres oedd Any Dream Will Do (lle'r oeddent yn chwilio am y prif berfformiwr ar gyfer cynhyrchiad Lloyd Webber a Tim Rice o Joseph and the Amazing Technicolor Dreamcoat). Y trydedd gyfres oedd I'd Do Anything (lle'r oeddent yn chwilio am gantores i chwarae rhan Nancy a thri perfformiwr ifanc i chwarae rhan Oliver mewn cynhyrchiad o'r sioe gerdd Oliver!)