Howard Hawks
Cyfarwyddwr, cynhyrchydd a sgriptiwr ffilmiau o'r Unol Daleithiau yn ystod Oes Aur Hollywood oedd Howard Winchester Hawks (30 Mai 1896 – 26 Rhagfyr 1977). Dywedodd y beirniad Leonard Maltin taw Hawks yw'r "cyfarwyddwr Americanaidd gorau nad yw'n enw cyfarwydd".[1]
Howard Hawks | |
---|---|
Ganwyd | 30 Mai 1896 Elkhart County |
Bu farw | 26 Rhagfyr 1977 Palm Springs |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, cyfarwyddwr ffilm, actor, hedfanwr, golygydd ffilm, cynhyrchydd, cyfarwyddwr, llenor |
Tad | Frank Winchester Hawks |
Mam | Helen Howard |
Priod | Athole Shearer, Slim Keith, Dee Hartford |
Plant | Kitty Hawks, David Hawks, Barbara Hawks, Gregg Hawks |
Gwobr/au | Gwobr Anrhydeddus yr Academi, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Cyfarwyddwr eang ei faes oedd Hawkes a greodd ffilmiau mewn amryw o fathau: comedi, drama, trosedd a gangsteriaid, gwyddonias, film noir, a'r Gorllewin Gwyllt.[2] Ymhlith ei ffilmiau poblogaidd mae Scarface (1932), Bringing Up Baby (1938), Only Angels Have Wings (1939), His Girl Friday (1940), To Have and Have Not (1944), The Big Sleep (1946), Red River (1948), The Thing from Another World (1951), a Rio Bravo (1959). Rhoddid ei enw ar fath o gymeriad benywaidd bengaled a chadarn ei hiaith, "y ddynes Hawksaidd".[2]
Cafodd Hawks ei enwebu am Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau ym 1942 am ei ffilm Sergeant York, ac ym 1975 enillodd Wobr yr Academi er Anrhydedd am fod yn "wneuthurwr ffilmiau Americanaidd â'i ymdrechion creadigol yn uchel eu parch yn sinema'r byd".[3] Cafodd ddylanwad ar gyfarwyddwyr o fri megis Martin Scorsese, Robert Altman, John Carpenter, a Quentin Tarantino.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Crouse, Richard. "Reel Winners: Movie Award Trivia" (Dundurn, Hydref 2005), t. 250. ISBN 978-1-55002-574-3 Adalwyd ar 26 Gorffennaf 2016.
- ↑ 2.0 2.1 Wheeler Winston Dixon and Gwendolyn Audrey Foster, A Short History of Film (New Brunswick, NJ: Rutgers University Press) p. 99—101. ISBN 978-0-8135-4270-6.
- ↑ "Awards." IMDb. Retrieved: July 1, 2016.
Darllen pellach
golygu- Branson, Clark. Howard Hawks, A Jungian Study. Santa Barbara, Califfornia: Garland-Clarke Editions, 1987. ISBN 978-0-88496-261-8.
- Liandrat-Guigues, Suzanne. Red River. Llundain: BFI Publishing, 2000. ISBN 978-0-85170-819-5.
- McBride, Joseph. Hawks on Hawks. Berkeley, Califfornia: University of California Press, 1982. ISBN 978-0-520-04552-1.
- McBride, Joseph (ed). Focus on Howard Hawks. Efrog Newydd: Prentice-Hall, Inc, 1972. ISBN 978-0-13-384271-5.
- Pippin, Robert B. Hollywood Westerns and American Myth: The Importance of Howard Hawks and John Ford for Political Philosophy. New Haven, Connecticut: Yale University Press, 2010. ISBN 978-0-300-14577-9.
- Wood, Robin. Howard Hawks. Llundain: Secker & Warburg, 1968. ISBN 978-0-85170-111-0. London: British Film Institute, 1981, revised with addition of chapter "Retrospect". ISBN 978-0-85170-111-0. New Edition, Detroit, Michigan: Wayne State University Press, 2006. ISBN 978-0-8143-3276-4.
- Wood, Robin. Rio Bravo. Llundain: BFI Publishing, 2003. ISBN 978-0-85170-966-6.