Gwleidydd Americanaidd oedd Huey Pierce Long (30 Awst 189310 Medi 1935) a fu'n Llywodraethwr Louisiana o 1928 i 1932 ac yn aelod o Senedd yr Unol Daleithiau o 1932 nes iddo gael ei lofruddio yn 1935. Roedd yn ffigur hynod o ddadleuol, yn boblydd tanbaid a gafodd ei ystyried yn ddemagog gan rai.[1]

Huey Long
Y Seneddwr Huey Long yn siarad (c. 1933–35).
GanwydHuey Pierce Long, Jr. Edit this on Wikidata
30 Awst 1893 Edit this on Wikidata
Winnfield, Louisiana Edit this on Wikidata
Bu farw10 Medi 1935 Edit this on Wikidata
o anaf balistig Edit this on Wikidata
Baton Rouge Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Tulane
  • Prifysgol Oklahoma
  • Tulane University Law School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, cyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddGovernor of Louisiana, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau, Seneddwr yr Unol Daleithiau Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PriodRose McConnell Long Edit this on Wikidata
PlantRussell B. Long Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed ger Winnfield, Louisiana. Astudiodd y gyfraith a chafodd ei ethol i gomisiwn rheilffyrdd Louisiana yn 25 oed. Ymgyrchodd yn etholiad y llywodraethwr yn gyntaf yn 1924, ac yn 1928 cafodd ei ethol i'r swydd honno yn aelod o'r Blaid Ddemocrataidd. Er iddo adael llywodraeth Louisiana yn 1932 i gynrychioli'r dalaith yn Washington, D.C., fe benododd ei olynwyr er mwyn iddo allu rheoli Louisiana, fel unben bron. Saethwyd Long yn farw gan feddyg o'r enw Carl Weiss yn Senedd-dy Taleithiol Louisiana yn Baton Rouge.

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Huey Long. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 5 Chwefror 2020.

Darllen pellach golygu

  • William Ivy Hair, The Kingfish and His Realm: The Life and Times of Huey P. Long (Baton Rouge: Louisiana State University Press, 1992).
  • Richard D. White, Kingfish: The Reign of Huey P. Long (Efrog Newydd: Random House, 2006).
  • T. Harry Williams, Huey Long: A Biography (Efrog Newydd: Alfred A. Knopf, 1969).